Pwy sy’n Unig yng Nghymru?

Mae’r gyfres hon o fewnwelediadau data ar unigrwydd yng Nghymru yn seiliedig ar ddadansoddiad pwrpasol o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Fe’i cynlluniwyd i roi gwell dealltwriaeth i lunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus o bwy sy’n unig a chroestoriad o ‘ffactorau risg’ gwahanol fel y gellir cynllunio a darparu cyllid ac ymyriadau i fynd i’r afael ag unigrwydd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae ein dadansoddiad yn cyfuno gwerth tair blynedd o ddata, o 2016/17, 2017/18, a 2019/20 (ni holwyd cwestiynau am unigrwydd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018/19).

Mae’r mewnwelediad cyntaf yn y gyfres yn nodi lefelau unigrwydd ymhlith gwahanol grwpiau. Mae’n canfod bod cysylltiad agos rhwng unigrwydd ac anghydraddoldebau strwythurol. Mae lefelau’n amrywio yn ôl nodweddion unigol fel oedran, rhywedd ac ethnigrwydd, ac amgylchiadau personol fel statws priodasol, cyfansoddiad aelwydydd, amddifadedd, ac iechyd cyffredinol.

Fodd bynnag, nid yw unigolion yn profi’r nodweddion neu’r amgylchiadau hyn ar eu pen eu hunain, a dyw’r ffordd maen nhw’n plethu i ffurfio lefelau o unigrwydd ddim wedi’i archwilio’n fanwl.  Nod yr ail a’r trydydd mewnwelediad yw dechrau trin y bwlch hwn, drwy archwilio sut mae oedran ac iechyd yn rhyngweithio gyda nodweddion eraill i ddangos pa grwpiau sy’n arbennig o agored i unigrwydd.

Canfu’r mewnwelediad ‘Oedran ac unigrwydd’ fod 23.3% o bobl 16-24 oed yn dweud eu bod yn unig o’i gymharu â 10.5% o bobl 75+ oed. Ar ben hynny, ymhlith pobl 16-24 oed sydd â salwch neu anabledd tymor hir, mae’r gyfran sy’n dweud eu bod yn unig yn codi i 42.2%. Canfu’r mewnwelediad ‘Iechyd ac unigrwydd’ fod 42% o bobl ag iechyd gwael iawn yn dweud eu bod yn unig o’i gymharu â 23% o bobl mewn iechyd gweddol. Fodd bynnag, o blith y rhai ag iechyd gwael iawn, mae pobl oedran gwaith mewn aelwydydd un person, rhieni sengl ac aelwydydd dau oedolyn â phlant lawer yn fwy unig na’r rheini mewn aelwydydd eraill.  Mae’r ddau fewnwelediad yn tynnu sylw at y risg acíwt o unigrwydd a wynebir gan bobl sy’n profi sawl math o anfantais a phwysigrwydd cyllid ac ymyriadau sydd wedi’u targedu i’w cefnogi mewn polisi a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r mewnwelediad data olaf yn edrych ar lefelau unigrwydd rhwng mis Mai a mis Medi 2020, gan dynnu ar fersiwn ffôn misol Arolwg Cenedlaethol Cymru. Er nad oes modd eu cymharu’n uniongyrchol, mae’r canfyddiadau hyn yn ategu ein dadansoddiad o’r data o dair ton o’r arolwg blwyddyn lawn yn y mewnwelediadau eraill yn y gyfres. Er enghraifft, roedd pobl â salwch neu anabledd tymor hir ar gyfartaledd dros ddwywaith yn fwy unig na phobl eraill. Ac roedd pobl mewn amddifadedd materol ar gyfartaledd dros ddwywaith yn fwy unig na phobl eraill.

Mae atodiad methodolegol yn cyd-fynd â’r tri mewnwelediad data hyn ar unigrwydd gan roi manylion am y data a’r methodolegau a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad.


Mae Robin Hewings a Kalpa Kharicha o’r Campaign to End Loneliness yn rhoi sylwadau arbenigol am y mewnwelediadau data hyn mewn blog sy’n myfyrio ar y canfyddiadau, yn eu gosod yng nghyd-destun ehangach ymchwil i unigrwydd, ac yn amlinellu’r hyn y maen nhw’n ei olygu ar gyfer llunio polisïau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.