Effaith seilwaith ar lesiant yng Nghymru

Mae cysylltiad annatod rhwng seilwaith a llesiant. Bydd seilwaith da, wedi’i ddylunio’n dda ac wedi’i leoli’n dda, wedi’i ddatblygu yn unol ag egwyddorion cadarn ac ar y cyd â’r defnyddwyr, yn debygol o gynhyrchu canlyniadau rhagorol am gyfnod hir. Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir.

Mae’r sylwebaeth newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) – “Seilwaith a llesiant hirdymor” – yn tynnu sylw at gymhlethdodau integreiddio llesiant yn y broses o wneud penderfyniadau ar seilwaith (TL:DR; ni fydd yr hyn sy’n gweithio mewn un lle o reidrwydd yn gweithio mewn un arall, ond bydd yr egwyddorion cywir a gymhwysir ym mhobman yn cynhyrchu canlyniadau sy’n debygol o fodloni disgwyliadau).

Mae’r adroddiad yn cyd-fynd yn gryf â’m safbwyntiau personol ar ddylunio seilwaith y dyfodol. Oes, rhaid i seilwaith alinio ag anghenion defnyddwyr cyfredol. Ond mae’r gallu i addasu seilwaith wrth i’r anghenion hynny ddatblygu yr un mor bwysig. Weithiau bydd ein gofynion yn datblygu mewn ffyrdd syfrdanol neu annisgwyl. Nid oes rhaid i ni gofio’n rhy bell yn ôl i ddeall sut y gall cymdeithas newid yn radical, mewn ychydig wythnosau byr yn unig.

Yn anffodus, mae’n annhebygol y bydd yn rhaid i ni aros yn rhy hir nes bod newidiadau yn y dyfodol hefyd yn dechrau effeithio ar ein cymdeithas a’n seilwaith, a hynny hefyd mewn ffyrdd radical. Mae Cymru’n mynd i wynebu lefelau uwch o lifogydd, erydu arfordirol, sychder a thanau gwyllt. Bydd ein creadigrwydd a’n dychymyg yn cael eu profi wrth i ni geisio caffael seilwaith yr unfed ganrif ar hugain, gyda dealltwriaeth gyfyngedig o effeithiau hinsawdd gynyddol ansefydlog a ffyrnig yn y dyfodol.

Mae natur hirhoedlog buddsoddiadau a datblygiadau mewn seilwaith yn cynyddu’r angen i wneud pethau’n iawn ar y dechrau a gwerth gwneud hynny. Gall canlyniadau, da a drwg, gael dylanwadau am ddegawdau.

Yn hynny o beth, mae papur WCPP yn hollol gywir. Rwy’n cytuno bod ‘dadansoddiadau cost a budd’ traddodiadol yn gyffredinol wedi ffafrio dulliau sy’n allanoli costau, er anfantais i natur ac i’r tlotaf mewn cymdeithas sydd leiaf abl i ‘brynu’ eu ffordd allan o amgylchiadau niweidiol. Fodd bynnag, byddwn yn mynd ymhellach o hyd. Er enghraifft, nid yw dull Llyfr Gwyrdd Trysorlys y DU o ariannu prosiectau seilwaith mawr yn gyhoeddus ar hyn o bryd yn caniatáu i lawer o’r manteision posibl sy’n anodd eu cyfrifo (ond mawr iawn), ymhell yn y dyfodol, gael eu cyfrifo.

Er enghraifft; pe bai morlyn llanw yn cael ei ddatblygu a allai ddarparu trydan adnewyddadwy, sydd ar yr un pryd yn amddiffyn arfordir sy’n agored i niwed rhag erydiad a llifogydd oherwydd bod lefelau’r môr yn codi, a fyddai dulliau prisio cyfredol yn ein galluogi i gyfrifo’r manteision addawol ar gyfer degau o filoedd o berchnogion tai yn y dyfodol na fyddent wedyn yn dioddef yr ing seicolegol o ddioddef llifogydd? Nid wyf yn credu; ac eto, dyna’r union fath o drafodaethau a allai gynnig y gwerth cyffredinol gorau i gymdeithas.

Gyda’r offer sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, ni allwn gyfrifo, na hyd yn oed amcangyfrif, y gwahanol ganlyniadau posibl sy’n deillio o unrhyw ddarn penodol o seilwaith. Ond mae’r WCPP yn gwneud cyfraniad defnyddiol i’r sgwrs drwy bwysleisio nad yw llesiant bellach yn ‘braf i’w gael’, ond yn rhan annatod o bolisi cyhoeddus Cymru.

Mae sawl rhan o adroddiad WCPP yn cyd-fynd â’m safbwynt personol ynghylch sut y dylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol nesaf Cymru weithredu. O ystyried bod adeiladu seilwaith llwyd yn creu effaith amgylcheddol fawr, y cwestiwn pwysicaf ddylai fod yw a oes ei angen arnom yn y lle cyntaf, ac yna ystyriaethau eraill, megis ‘a allai newidiadau polisi gyflawni canlyniad tebyg’, neu ‘a all seilwaith gwyrdd neu las liniaru’r angen am lwyd’?

Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan ddatganiad diweddar Llywodraeth Cymru o’r argyfwng natur a hinsawdd, a gan y ffordd y mae Cenedlaethau’r Dyfodol wedi dechrau cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio seilwaith yng Nghymru. Mewn ugain mlynedd ar hugain o ddatganoli, nid wyf erioed wedi cael fy ysbrydoli mwy gan y sgyrsiau radical sy’n deillio o Barc Cathays. Dylwn i wir ddweud ‘sy’n swnio’n radical’. Yr unig sefyllfa wirioneddol radical y dyddiau hyn yw busnes fel arfer, a fydd yn gwarantu dyfodol llawer llai derbyniol i ni na’r hinsawdd yn y gorffennol yr ydym wedi cael y fraint o’i fwynhau ac, i raddau, ei wastraffu.

Mae’n anodd dweud ble rydym yn mynd nesaf o ran gwir fewnoli llesiant yn ei holl agweddau, ond ar un adeg, dim ond ar gyrion y byd academaidd ac mewn cyfarfodydd trydydd sector y clywyd y sgyrsiau hynny. Rwy’n falch iawn o weld eu bod yn dod yn brif ffrwd. Mae gan Genedlaethau’r Dyfodol yr hawl i ddisgwyl dim llai.

Dr David Clubb yw Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae’r blog hwn yn cynrychioli ei farn bersonol, ac nid yw’n cynrychioli barn Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.