Seilwaith a llesiant hirdymor

Mae’r adroddiad sylwadau hwn yn cyd-fynd ag adolygiad cyflym o dystiolaeth am sut mae seilwaith ffisegol yn dylanwadu ar lesiant hirdymor, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i lywio ei dull o gynllunio a buddsoddi mewn seilwaith.

Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o ystod eang o draddodiadau a disgyblaethau ymchwil sy’n dangos sut mae seilwaith ffisegol yn dylanwadu’n sylweddol ar lesiant hirdymor. Mae’n amlwg o’r dystiolaeth y gall effeithiau fod yn gadarnhaol ac yn negyddol, yn dibynnu, yn rhannol, ar ba un o’r agweddau gwahanol ar lesiant sy’n cael ei hystyried.

Mae ein hadolygiad yn rhoi crynodeb o dystiolaeth am rai o’r ffyrdd posibl y mae buddsoddi mewn seilwaith yn dylanwadu ar lesiant hirdymor, yn hytrach na galluogi cymariaethau manwl rhwng gwahanol fathau o seilwaith, neu gynnig argymhellion am ba fath o seilwaith y dylid buddsoddi ynddo i gael yr effaith fwyaf.

Mae’r adroddiad sylwadau yn ategu’r dystiolaeth yn yr adolygiad drwy ddarparu cyd-destun a manylion ychwanegol, gan gynnig arweiniad pellach ynghylch sut y dylid dehongli canfyddiadau er mwyn llywio penderfyniadau am seilwaith.

Mae adrannau eraill yr adroddiad yn nodi’r canlynol:

  • Pam mae buddsoddi mewn seilwaith yn bwysig i lesiant hirdymor
  • Sut mae’r berthynas rhwng seilwaith a llesiant wedi’i ddeall mewn gwahanol gyd-destunau polisi ac ymchwil
  • Goblygiadau gwahanol ddulliau o ddiffinio a mesur llesiant
  • Cyfaddawdau ynghlwm wrth ddulliau sy’n ystyried llesiant wrth wneud penderfyniadau ar seilwaith
  • Sut i ddehongli’r dystiolaeth am seilwaith a llesiant
  • Goblygiadau ar gyfer cynllunio seilwaith a gwneud penderfyniadau er mwyn gwneud y gorau o effeithiau ar lesiant hirdymor wrth fuddsoddi mewn seilwaith.

DOI: https://doi.org/10.54454/20220527