Defnyddio cyfleoedd pysgota i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn niwydiant pysgota Cymru

Wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, rhoddwyd llawer o sylw i’r cyfleoedd ar ôl Brexit ar gyfer deddfwriaeth lywodraethol newydd. O’r braidd y teimlir hyn yn ddwysach mewn unman nag yn y diwydiant pysgota, lle bu galwadau am “ fôr o gyfle ” wrth i’r Deyrnas Unedig ddod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol gyda rheolaeth dros ei dyfroedd.

Ond cyfle i bwy? Yn 2018, fe fuom ni’n dadansoddi cyfleoedd pysgota – y term a ddefnyddir ar gyfer trwyddedau pysgota, cwotâu a breintiau mynediad eraill – a chanfod bod cyfran Cymru o gwota pysgota’r Deyrnas Unedig yn llai nag un y cant. O ganlyniad, gallai enillion Brexit i’r diwydiant pysgota yng Nghymru fod yn fach iawn (ac mae’r potensial allforio yn fawr iawn) oni bai bod dyraniad y cyfleoedd pysgota yn y Deyrnas Unedig yn cael ei ddiwygio ochr yn ochr â hynny.

Ac oddi mewn i Gymru? Yn gynharach eleni, aethom â’r dadansoddiad hwn o gyfleoedd pysgota gam ymhellach trwy ddylunio opsiynau polisi posibl ar gyfer dyrannu’r cyfleoedd hyn. Nododd yr adroddiad sawl opsiwn polisi sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi newydd-ddyfodiaid i’r fflyd.

Fodd bynnag, dim ond cyfleoedd yw cyfleoedd pysgota – posibilrwydd y gellir manteisio arno neu beidio. Taflwyd goleuni newydd ar y cwestiwn hir-barhaol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’u hadroddiad newydd. Datblygodd yr adroddiad fframwaith iechyd cyhoeddus oedd yn ceisio atal (ansicrwydd a heriau), amddiffyn (rhag effeithiau posibl), a hybu (iechyd a lles pysgotwyr a chymunedau pysgota). Yna cymhwyswyd y fframwaith hwn i bum her allweddol a nodwyd gan randdeiliaid: diffyg grymuso, baich rheoleiddio, cynaliadwyedd cyflenwad a galw, straen ariannol, a chynnal iechyd da.

Mae’r canfyddiadau hyn yn cyfateb yn sylweddol i adroddiad diweddar gan Seafarer’s UK, sy’n cadarnhau ymhellach yr angen am wytnwch yn y diwydiant pysgota. Efallai bod y sbotolau y mae Brexit wedi’i droi ar y diwydiant pysgota hefyd yn golygu bod modd edrych yn fanylach ar heriau’r diwydiant.

Yn wyneb y canfyddiadau newydd hyn, gorfodir rhywun i feddwl tybed a fydd yr heriau hyn yn atal cenedlaethau’r dyfodol – yn wir cenedlaethau iau hyd yn oed heddiw – rhag manteisio ar gyfleoedd pysgota os byddant ar gael. O ran y ddadl barhaus ynghylch rhannu cyfleoedd pysgota ar ôl Brexit, mae dau oblygiad allweddol.

Yn gyntaf, mae’n amlwg nad yw cyfleoedd pysgota ar eu pennau eu hunain yn ddigonol. Er mai diffyg cyfleoedd pysgota – p’un a yw niferoedd bach o ganlyniad i boblogaethau pysgod sydd wedi lleihau neu gyfrannau a ddelir gan fflydoedd tramor neu fflydoedd eraill y Deyrnas Unedig – yw un o’r materion pysgota sy’n cael y sylw mwyaf wrth reoli pysgodfeydd, nid dyma’r unig un. Mae gweledigaeth o bysgodfeydd ar gyfer y dyfodol yn cynnwys pob agwedd ar reoli pysgodfeydd yn ogystal â meddwl yn ddyfnach am sut mae polisïau y tu allan i barthau traddodiadol rheoli pysgodfeydd yn effeithio ar y diwydiant. Mae adroddiad eleni gan y New Economics Foundation yn tynnu sylw at gysylltiadau llafur, er enghraifft sut mae pysgotwyr yn trefnu ac yn cael eu had-dalu, fel un o’r meysydd hyn.

Yn ail, wrth nodi’r cafeatau hyn, gellir cynllunio cyfleoedd pysgota i helpu i feithrin mwy o wytnwch. Un mater sy’n codi dro ar ôl tro o adroddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yw natur ‘ffynnu a methu’ pysgota. Yn ogystal â chyflwyno anawsterau ariannol, o ran llesiant, mae patrwm o ffynnu a methu yn cael ei deimlo’n anghymesur (mae methu yn gostwng lefelau llesiant yn fwy nag mae ffynnu yn eu codi), ac mae llu o fathau o ymddygiad sy’n gysylltiedig â lefel uchel o amrywioldeb incwm, gan gynnwys defnydd o alcohol a chyffuriau.

Er mwyn gwrthweithio natur ffynnu a methu pysgodfeydd, gellir cynllunio systemau marchnad (gan gynnwys marchnadoedd anariannol) yn hwylus i ganiatáu cyfnewid cyfleoedd pysgota yn hawdd fel bod modd i bysgotwyr ddefnyddio eu dyraniadau cwota eu hunain i gynllunio eu portffolio cwota yn well ar draws gwahanol rywogaethau. Syniad arall sy’n ennill tir yw dyrannu cyfleoedd pysgota i gymell rhai arferion pysgota penodol (tebyg i eco-gynlluniau ym maes amaethyddiaeth). Gellid ychwanegu mesurau iechyd a diogelwch ochr yn ochr â chynigion i ddyrannu cyfleoedd i arferion pysgota sy’n cyfyngu ar yr  effeithiau ar ecosystem neu sy’n cyfrannu mwy at economïau lleol. (Sylwer y gallai rhai opsiynau polisi, er enghraifft systemau ar ffurf ocsiwn, weithio i’r cyfeiriad arall trwy gynyddu ansicrwydd.)

Gan fod llawer o opsiynau polisi y gellid eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles yn niwydiant pysgota Cymru, mae hyn yn cryfhau’r alwad yn adroddiad diweddar Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynhyrchu systemau newydd ar y cyd. Bydd gan bysgotwyr farn unigryw ac ymarferol ynghylch pa opsiynau polisi allai weithio iddyn nhw, a hefyd, yn bwysig, i genedlaethau’r dyfodol, mewn diwydiant sydd ymhlith y mwyaf hirhoedlog yng Nghymru.