Opsiynau polisi ar gyfer cyfleoedd pysgota yng Nghymru

Mae maint a pherfformiad diwydiant pysgota Cymru ar hyn o bryd, ynghyd â chyd-destun polisi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd, i gyd yn rhoi cyd-destun pwysig ar gyfer dychmygu natur bosibl diwydiant pysgota llwyddiannus yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mae ymdrechion wedi’u gwneud i gryfhau’r gwaith o reoli pysgodfeydd, yn enwedig ar lefel ranbarthol, ond nid oes system reoli sy’n gweithio’n iawn, a honno’n ennyn ymddiriedaeth, wedi’i sefydlu hyd yma.

Mae’r adroddiad – ar gael fel adroddiad llawn a fersiwn byrrach – hwn yn edrych ar botensial y cyfleoedd pysgota sydd ar gael i Gymru, gan ddatblygu ar yr ymchwil a’r dystiolaeth sy’n bodoli’n barod yng Nghymru a’r tu hwnt.

Er gwaethaf ei maint bychan, neu efallai oherwydd hynny, gall Cymru arwain drwy ddangos sut fath o beth yw pysgodfeydd sy’n cael eu rheoli er mwyn gofalu am lesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno rhai opsiynau posibl, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd pysgota o safbwynt math, dyrannu, defnyddio a glanio.