Goblygiadau Brexit i Gyfleoedd Pysgota yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i oblygiadau posibl ymadawiad arfaethedig y DU â’r UE a Pholisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE i bolisi pysgodfeydd yng Nghymru.

Mae gwaith dadansoddi perfformiad economaidd y fflyd mewn amrywiaeth o senarios yn sgil Brexit yn datgelu, er y gallai fflyd bysgota Cymru yn ei chyfanrwydd fod ar ei hennill, fod rhannau mawr o’r diwydiant, a’r rhan fwyaf o gychod, pysgotwyr a phorthladdoedd, yn debygol o fod ar eu colled yn sgil Brexit. Dim ond nifer fach o gychod fydd o bosibl yn sicrhau enillion mawr, gan gynnwys rhai ‘fflaglongau’ sy’n glanio llawer o’u pysgod yn Sbaen.

Mae’r posibilrwydd o honni hawliau llwyr-gyfyngedig i bysgota yn nyfroedd y DU a hawlio cyfrannau mwy o’r cwota pysgota o ganlyniad i Brexit wedi cyffroi rhannau o ddiwydiant pysgota’r DU. Fodd bynnag, mae fflyd Cymru yn cynnwys cychod bach yn bennaf na fyddent yn elwa o fynediad llwyr-gyfyngedig i ardal bysgota estynedig. Maent hefyd yn dal rhywogaethau pysgod cregyn yn bennaf nad ydynt yn cael eu rheoli gan derfynau cwota. Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd môr sy’n cael ei ddal gan fflyd Cymru yn cael ei allforio i wledydd yr UE neu ei allforio drwy gytundebau masnach yr UE, felly gallai rhwystrau tariff a di-dariff posibl i fasnach effeithio’n sylweddol ar fynediad i’r farchnad a chystadleurwydd.

Mae’r awduron yn nodi bod strwythur fflyd Cymru yn unigryw a bod perygl go iawn y caiff ei ‘esgeuluso’ yn nhrafodaethau’r DU a’r UE oherwydd gofynion a buddiannau pysgotwyr mwy o faint. Er bod cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch canlyniadau Brexit, o edrych ymlaen, maent yn amcangyfrif y bydd llawer mwy o gyfleoedd i bysgota yn nyfroedd Cymru ar ôl Brexit nag ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan y byddai unrhyw gynnydd yn cronni i’r rhai â chwota presennol yn y DU, mae angen trefniant newydd ar fflyd Cymru i rannu cwotâu o fewn y DU er mwyn sicrhau ei bod yn cael cyfran deg. Er mwyn manteisio ar gyfleoedd pysgota newydd, mae’r awdur yn awgrymu y bydd angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wneud newidiadau wedi’u targedu i’r ffordd y caiff cyfleoedd pysgota eu rheoli i sicrhau bod porthladdoedd Cymru, cymunedau arfordirol a chymdeithas ehangach yn elwa o’r hyn sy’n adnodd cyhoeddus yn y bôn.

 

Mae’r adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.