Cefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn pysgotwyr a chymunedau pysgota

Ym mis Medi 2020 gwnaeth y Ganolfan gyhoeddi ei hadroddiad Opsiynau polisi ar gyfer cyfleoedd pysgota yng Nghymru, sy’n archwilio’r cyfleoedd pysgota posibl sy’n agored i Gymru ar ôl y pontio Ewropeaidd.  Yr un mor bwysig â’r goblygiadau ariannol ar gyfer y sector yw’r effaith feddyliol mae ansicrwydd Brexit yn ei chael ar y rheiny sy’n gweithio o fewn y diwydiant pysgota. Mae’r blog isod yn amlinellu ymchwil newydd bwysig sy’n cael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, sy’n anelu at amlygu ffyrdd o gefnogi iechyd meddwl a llesiant cymuned bysgota Cymru.


Mae Cymru yn genedl arfordirol, a physgota yn draddodiadol yw’r prif ddiwydiant ar gyfer trefi a chymunedau niferus ar hyd ei harfordir, ac mae’r sector yn rhan bwysig o’r economi a threftadaeth ddiwylliannol Cymru hyd heddiw. Wrth i’r Deyrnas Unedig (DU) barhau ar ei thaith i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), mae ansicrwydd sylweddol ar gyfer y diwydiant pysgota, pysgotwyr, a chymunedau arfordirol yng Nghymru o hyd.

Mae’r adroddiad pwysig hwn yn amlygu’r ansicrwydd sy’n wynebu’r sector pysgota yng Nghymru a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer iechyd a llesiant ein pysgotwyr. Mae llawer o’r ansicrwydd a heriau hyn yn faterion hirsefydlog y mae pysgotwyr wedi bod yn eu hwynebu, a gall effaith hynny waethygu yn sgil Brexit a’r pandemig COVID-19. Gyda 90% o allforion pysgodfeydd yn mynd i’r UE a thua thri chwarter o fflyd Cymru yn llongau pysgota bach, mae’r amgylchiadau digynsail hyn yn ffynhonnell ychwanegol o straen.

Mewn cymunedau pysgota, mae iechyd da yn hanfodol i allu unigolion a theuluoedd i gynnal bywoliaeth hyfyw, ac felly mae codi ymwybyddiaeth a chefnogi iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol pysgotwyr yn bwysig, amserol a pherthnasol.

Dull gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd, fel a amlinellwyd mewn adroddiad ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, Adeiladu gwydnwch yn y sector pysgota yng Nghymru, wedi’i ategu gan y dystiolaeth orau sydd ar gael a chyd-gynhyrchu gyda gweithwyr y diwydiant a’u teuluoedd, yw’r unig ffordd gynaliadwy o helpu i adeiladu gwydnwch yn y sector. Mae ein hadroddiad yn disgrifio fframwaith ar gyfer gweithredu i atal ansicrwydd neu her (lle y bo’n bosibl); lle na allwn atal adfyd, mae angen i ni amddiffyn yn erbyn ei effaith bosibl ar les meddyliol; ac yn olaf ar gyfer dull gweithredu tymor hwy mae angen i ni geisio hyrwyddo iechyd a llesiant ein pysgotwyr a’n cymunedau pysgota.

 

Sut y gwnaethom fynd ati i ddatblygu’r fframwaith?

Gwnaethom archwilio rhaglenni cenedlaethol a rhyngwladol oedd wedi’u cynllunio i gefnogi iechyd pysgotwyr, eu teuluoedd, a chymunedau pysgota. Mae enghreifftiau a amlygir yn yr adroddiad o raglenni a wnaeth anelu at gryfhau iechyd a llesiant fel ased hanfodol ar gyfer y sector pysgota. Ceisiodd y rhaglenni hyn gyflawni hyn drwy godi ymwybyddiaeth pysgotwyr o les meddyliol a’r cymorth sydd ar gael iddynt a chael gwared ar y rhwystrau i’w mynediad at y gwasanaethau hanfodol hyn. Yn ychwanegol, amlygu dull gweithredu amlsector fel dull pwysig o gyflawni iechyd da mewn pysgotwyr, ac felly dod â darparwyr iechyd lleol, arbenigwyr iechyd meddwl, arbenigwyr yn y diwydiant lleol, grwpiau lles, y sector rheoliadol, a physgotwyr eu hunain at ei gilydd i greu a chyflenwi atebion.

Dangosodd hyn fwlch mewn rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig o’r DU, sy’n dangos effaith gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd a llesiant mesuradwy ar gyfer pysgotwyr.  Mae angen brys am ddull gwell o werthuso rhaglenni pwrpasol i ddeall beth sy’n gweithio, ac ar gyfer pwy.

 

Felly beth yw’r atebion?

Cafodd y canfyddiadau o’r llenyddiaeth eu trafod mewn gweithdai gyda physgotwyr a sefydliadau pysgota o Gymru, i ddatblygu a chyd-gynhyrchu argymhellion sy’n benodol i Gymru drwy ymgysylltu bywiog a chyfraniadau amhrisiadwy gan ein rhanddeiliaid sy’n pysgota.

Gwnaethom dynnu ar gipolygon lleol i goladu a mapio’r rhwydwaith o sefydliadau ledled Cymru, sy’n cynnig cymorth a chyngor wedi’u teilwra i bysgotwyr. Er enghraifft, darparu gwasanaethau lle gallant gael gafael ar wybodaeth a chymorth i fynd i’r afael â phryderon ariannol, rheoli busnes, cynllunio olyniaeth, ac iechyd meddwl a llesiant.

Mae ein hargymhellion yn cychwyn â ffocws ar atal a mynd i’r afael ag ansicrwydd drwy ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y sector pysgota yng Nghymru gan amlygu ei werth fel adnodd naturiol sy’n cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Dylai hyn hefyd fod ochr yn ochr â gweithrediadau ymarferol a allai helpu i leihau gorbryder a straen os eir i’r afael â hwy, ac amddiffyn rhag effaith heriau ac ansicrwydd ar les meddyliol. Y rhain oedd:

  • symleiddio’r prosesau gweinyddol a rheoliadol,
  • cyd-gynhyrchu polisïau a gweledigaeth hyfyw ar gyfer dyfodol pysgota yng Nghymru gyda physgotwyr,
  • hyrwyddo’r sector pysgota yng Nghymru a hyrwyddo cynnyrch Cymreig
  • sicrhau y darperir cymorth ariannol a busnes sy’n ymestyn i’r teulu pysgota ehangach,
  • sicrhau dull gweledol o orfodi rheoliadau; a rheoliadau iechyd a diogelwch.

Yn olaf rydym yn amlygu nifer o gamau gweithredu i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant ymysg pysgotwyr a chymunedau pysgota. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Cefnogi newid mewn diwylliant pysgota er mwyn mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â cheisio cyngor neu gymorth ar gyfer heriau busnes neu iechyd.
  • Datblygu a phrofi dulliau i gynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
  • Sicrhau bod gan bysgotwyr fynediad gwell at wasanaethau iechyd a llesiant mewn partneriaeth â darparwyr lleol i sicrhau bod rhaglenni iechyd yn cyrraedd y rhai mwyaf bregus.
  • Hybu partneriaethau amlasiantaeth; gan gynnwys darparwyr gofal iechyd lleol, arbenigwyr diwydiant ac asiantaethau lles.
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r cymunedau pysgota er mwyn adeiladu ar wybodaeth a chysylltiadau lleol i ddatblygu cymorth a galluogi mwy o ymgysylltu â’r cymunedau pysgota.

Daethom â nifer o sefydliadau gwahanol sy’n gwneud gwaith arbennig yn y maes hwn ynghyd, a gallent hwythau weld gwerth parhau â’r dull partneriaeth i gefnogi ein cymunedau pysgota yng Nghymru; sydd yn eu tro yn llunio ein hamgylchedd naturiol a’n diwylliant ac yn cyfrannu at lesiant y boblogaeth yng Nghymru a’n heconomi.

Mae defnyddio’r fframwaith hwn yn cynnig cyfle i Gymru adeiladu ar etifeddiaeth y sector pysgota a bod yn arloeswr wrth fynd i’r afael â materion allweddol iechyd meddwl a llesiant ymysg cymunedau pysgota.