‘Cyfuno’ darpariaeth ar-lein ac all-lein mewn gwasanaethau lles cymunedol: beth mae’n ei olygu a pham fod hyn yn bwysig?

Drwy gydol pandemig Covid-19, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cefnogi llesiant cymunedol wedi dibynnu ar gyfuniad o ddulliau o bell ac wyneb yn wyneb ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu â’r bobl maent yn eu cynorthwyo. Cyflwynwyd y rhain mewn cyfuniadau gwahanol ar adegau gwahanol, mewn ymateb i dirwedd sy’n newid yn gyflym o gyfyngiadau ar gyswllt corfforol a blaenoriaethau unigol a chymunedol sy’n newid. Yn y cyd-destun hwn (ac mewn rhai achosion, ers cyn y pandemig), mae llawer o wasanaethau neu sefydliadau sy’n cefnogi llesiant cymunedol wedi datblygu dulliau soffistigedig lle mae darpariaeth ar-lein ac all-lein yn cael eu ‘cyfuno’ yn fwriadol i gyflawni nodau penodol sy’n ymwneud â natur gwasanaethau neu fynediad atynt.

I raddau amrywiol, mae llawer o ddarpariaeth gwasanaeth bellach yn cael ei ‘chyfuno’, wrth i ni symud y tu hwnt i gyfnod ymateb brys y pandemig. Yn debyg i gymdeithas yn gyffredinol, mae sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector sy’n cefnogi llesiant cymunedol yn wynebu gorfod penderfynu pa rôl y gallai ac y dylai darpariaeth ddigidol barhau i’w chwarae yn eu gwaith, a sut y dylai ryngweithio gyda darpariaeth wyneb yn wyneb. Mae gan y cwestiwn oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a chynhwysiant – oherwydd fel y mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn ei awgrymu, gall y ffyrdd y caiff darpariaeth ar-lein ac all-lein eu ‘cyfuno’ bennu sut mae gwasanaethau’n gweithio ac i bwy. Felly mae’n hanfodol deall yn well y gwahanol ffyrdd y mae darpariaeth ar-lein ac all-lein wedi cael eu ‘cyfuno’ mewn gwasanaethau llesiant cymunedol, a’r cyfleoedd, buddion a risgiau cysylltiedig.

Weithiau gall y drafodaeth am rôl ‘digidol’ mewn darpariaeth gwasanaethau ganolbwyntio ar gryfderau a gwendidau darpariaeth ddigidol ‘yn erbyn’ darpariaeth wyneb yn wyneb mewn ffordd ddeuaidd. Mae ymchwil ac ymarfer sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu nad yw pethau mor syml. Nid y gwrthwyneb i’r bydd ffisegol yw digidol. Mae’n rhan o’r byd hwnnw. Mae’r ddau yn rhyngweithio, ac mae goblygiadau pwysig i’r ffordd y mae’r rhyngweithio’n digwydd. Yn gynyddol, mae’r drafodaeth yn troi at sut y gellid cyfuno darpariaeth ddigidol neu ar-lein a chorfforol neu all-lein mewn ffyrdd sydd o fudd i’r ddwy ochr. Er y gall digidol gynyddu datgysylltu ac allgau, gall hefyd eu lleihau trwy gynllunio’n ofalus y ffordd y caiff ei gyfuno â rhyngweithio corfforol. Er enghraifft, yn ymchwil WCPP ar ddefnyddio technoleg i fynd i’r afael ag unigrwydd yn ystod y pandemig, pwysleisiodd sefydliadau cymunedol bwysigrwydd cyflwyno cyfunol, gyda rhyngweithiadau digidol wedi’u cynllunio i wella neu alluogi cysylltiadau wyneb yn wyneb mewn gofod ffisegol, neu lle mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gweithio i wneud cyfathrebu ar-lein yn fwy hygyrch.

Mae symud y tu hwnt i ddadleuon deuaidd ynghylch darpariaeth gwasanaeth ddigidol ac wyneb yn wyneb, at archwilio sut ac i ba raddau mae’r ddau’n gweithio gyda’i gilydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous. Mae’r cysyniad o ddarparu gwasanaeth yn gyfunol yn dechrau datod y rhain. Ac eto, er gwaethaf y defnydd cynyddol o’r term, mae llai yn hysbys am sut beth y gallai darparu gwasanaeth yn gyfunol fod yn ymarferol, pa ddulliau gwahanol o ‘gyfuno’ cyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein sy’n addas mewn gwahanol gyd-destunau, ac a allai’r rhain arwain at brosesau a chanlyniadau gwell ac os felly sut. Yn WCPP, ein nod yw cyfrannu at gau’r bwlch hwn trwy archwilio’r dystiolaeth amrywiol o arferion sydd wedi datblygu yn ystod y pandemig ynghylch darpariaeth gyfunol mewn gwasanaethau cymunedol. Mae ein sgyrsiau gydag arbenigwyr polisi ac ymarfer sydd ag ystod o wahanol arbenigeddau a safbwyntiau wedi amlygu ehangder y dystiolaeth hon, a’r angen i’w chasglu a’i dadansoddi er mwyn deall yn well ‘beth sy’n gweithio’ wrth ddarparu gwasanaeth yn gyfunol, i bwy, i beth, ac ym mha . Yn anad dim, mae’r sgyrsiau hyn wedi tynnu sylw at y ffaith fod gwneud hyn yn hanfodol ar gyfer gwella cydraddoldeb a chynhwysiant wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.