Mewnwelediad newydd i unigrwydd yng Nghymru

Mae dadansoddiad newydd gan Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnig mewnwelediad newydd pwysig i sut y gall gwahanol nodweddion luosi risg pobl o unigrwydd.

Hyd yn hyn, rydym wedi deall sut mae un nodwedd neu’r llall, fel anabledd, tlodi neu oedran, yn dylanwadu ar siawns rhywun o fod yn unig. Bellach gallwn weld sut y gall cyfuniad o nodweddion luosi’r risg – er enghraifft, os yw rhywun yn anabl, yn byw mewn tlodi ac yn ifanc. Un ffordd o ddisgrifio’r berthynas hon rhwng ffactorau risg yw ‘croestoriadol’.

I wneud hyn, cyfunodd y Ganolfan werth tair blynedd o ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru fel bod digon o bobl yn yr is-grwpiau hyn i allu gwneud canfyddiadau sy’n ystadegol gadarn. Dechreuodd y gwaith o gasglu data yn 2016/17, collwyd blwyddyn yn 2018/19 a chynhaliwyd y don ddiweddaraf ychydig cyn y cyfnodau clo.

Bu’n bosibl i’r ymchwilwyr edrych ar wahanol fathau o unigrwydd hefyd. Roedd hynny’n cynnwys unigrwydd cyffredinol ond hefyd unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. Mae unigrwydd emosiynol yn cael ei brofi pan fydd perthnasoedd agos pobl yn brin neu’n cael eu colli, efallai ar ôl marwolaeth partner. Mae unigrwydd cymdeithasol yn ymwneud â pheidio â chael y cysylltiadau sydd eu hangen arnom yn ein cylchoedd cymdeithasol ehangach.

 

Canfyddiadau

Mae set gyfoethog o ganfyddiadau ym mhob un o’r pedwar briff hygyrch iawn. Yn ogystal ag amlygu rhai gwahaniaethau amlwg rhwng grwpiau, mae yna ganfyddiadau defnyddiol lle nad yw’r gwahaniaethau mor fawr.

Mae menywod ychydig yn fwy unig na dynion, ond y gwahaniaeth yw un a hanner y cant: 16% a 17.5%, yn y drefn honno. Yn yr un modd, mae’r amrywiad rhwng pobl â chyflawniadau addysgol gwahanol yn fach, gyda lefelau unigrwydd yn amrywio o 14% i oddeutu 19%.

Mae yna wahaniaethau eraill sy’n fwy o faint. Mae pobl iau yn fwy unig na phobl hŷn. Mae mwy nag un o bob pum person ifanc 16-24 oed yn unig. Mae’r niferoedd yn gostwng yn gyson wrth i bobl heneiddio – un o bob 10 person dros 75 oed sy’n unig. Ond mae angen bod yn ofalus yma. Mae’n bosibl na fydd y mathau hyn o arolygon yn dod o hyd i rai o’r bobl hŷn fwyaf unig oherwydd sut mae’r data’n cael ei gasglu, ac mae’n ddigon posibl y bydd gwahaniaethau yn y ffordd y mae gwahanol bobl yn ymateb i gwestiynau am unigrwydd – p’un ai oherwydd stigma neu stoiciaeth.

Mae un o bob chwe pherson ‘Gwyn Prydeinig’ yn unig, ond ar gyfer ‘Gwyn arall’ a ‘Grwpiau ethnig eraill’, y ffigur yw un o bob pedwar. Mae dadansoddiad yn dangos bod y gwahaniaeth hwn yn wir ar draws grwpiau oedran sy’n awgrymu nad yw hyn yn gyfan gwbl oherwydd bod poblogaethau lleiafrifoedd ethnig yn aml yn iau.

Mae yna wahaniaethau pwysig eraill: mae pobl sy’n nodi eu bod yn heterorywiol bron i hanner mor debygol o fod yn unig na phobl nad ydynt yn heterorywiol. Mae pobl sydd wedi gwahanu – ond sy’n dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o’r un rhyw yn gyfreithiol – bron i deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn unig na rhywun sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Mae’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn unig na phobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Er bod y ffigurau hyn yn tynnu sylw at wahaniaethau, mae’n bwysig dweud hefyd nad yw’r mwyafrif helaeth yn yr holl grwpiau hyn yn unig. Mae yna hefyd nifer sylweddol o bobl sy’n unig ond sydd ag un neu ddwy nodwedd sy’n lleihau eu siawns o fod yn unig, fel bod yn hŷn neu’n wrywaidd. Mae’n bwysig peidio â chael ein llywio’n ormodol gan debygolrwydd ystadegol, gan esgeuluso profiadau unigol.

Fodd bynnag, mae’r gwahaniaethau’n dod yn amlwg iawn ar gyfer iechyd ac anabledd. Mae salwch, anabledd neu eiddilwch hirsefydlog yn dyblu’r risg o unigrwydd. Mae ychydig yn llai na naw y cant o bobl y mae eu hiechyd yn dda iawn yn dioddef o unigrwydd; mewn cymhariaeth mae bron i 42% o bobl y mae eu hiechyd yn wael iawn yn dioddef o unigrwydd.

O gyfuno hyn ag oedran, mae’r darlun yn drawiadol. Mae tua hanner y bobl y mae eu hiechyd yn wael ac sydd o dan 65 oed neu’n sengl yn unig.

 

Effaith y pandemig

Adlewyrchwyd y canfyddiadau hyn am ffactorau risg yn yr arolygon a gynhaliwyd yng Nghymru yn ystod y pandemig Covid-19 hefyd. Yn ddealladwy, cynhaliwyd arolygon dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb ac felly ni ellir cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol rhwng eleni a blynyddoedd eraill. Yn wir, mae’r arolwg yn dangos cwymp bach mewn unigrwydd. Yn rhyngwladol, gwnaeth meta-ddadansoddiad o arolygon hydredol na newidiodd sut y gwnaethant gasglu eu data ganfod cynnydd mewn unigrwydd yn ystod y pandemig, sy’n awgrymu bod y cwymp yn ôl pob tebyg yn sgil newid dull. Nid ydym yn gwybod yn union pam mae hyn, ond gall sefyllfaoedd cymdeithasol achosi mwy o bryder i bobl unig felly efallai eu bod wedi osgoi galwadau ffôn gan rifau nad ydyn nhw’n eu hadnabod.

Serch hynny, roedd yr un ffactorau risg yn amlwg yn ystod y pandemig ag o’r blaen, sy’n awgrymu bod y pandemig a’r ymateb polisi (gan gynnwys cyfnodau clo a chyfyngiadau eraill ar ryngweithio cymdeithasol) yn dwysáu’r ffactorau risg presennol, yn hytrach na chreu rhai newydd.

 

Beth mae hyn yn ei olygu o ran polisi ac ymarfer

Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi mewnwelediad newydd i’r hyn rydyn ni’n ei wybod am bwy sy’n unig. O’r herwydd, gallant lywio penderfyniadau am wasanaethau a pholisïau i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Maen nhw’n dangos y gall unrhyw un fod yn unig ac felly mae yna achos dros ddull gweithredu ataliol. Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos effaith byw mewn cymuned ddifreintiedig ar unigrwydd a’r angen i amddiffyn a datblygu seilwaith cymunedol – grwpiau cymunedol, tafarndai, llyfrgelloedd a chaffis – wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

Serch hynny, mae yna ffactorau risg sy’n ychwanegu at siawns rhywun o fod yn unig gan bron i 50%, yn enwedig os ydyn nhw’n dioddef o iechyd gwael. Mae hynny’n golygu bod angen i ni helpu pobl sy’n unig nawr.

Mae’r Fframwaith Dulliau Addawol, a ddatblygwyd gan yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd mewn ymgynghoriad ag ystod eang o ymchwilwyr ac ymarferwyr, yn dangos sut y gall gwasanaethau ffitio i mewn i system ehangach i fynd i’r afael ag unigrwydd yn effeithiol. Mae’r canfyddiadau gofidus hyn gan CPCC yn atgyfnerthu’r rôl bwysig y gall gwasanaethau iechyd a gofal ei chwarae wrth ddod o hyd i bobl sy’n unig. Maent yn tanlinellu’r angen i gyflwyno presgripsiwn cymdeithasol a all helpu i fynd i’r afael ag anghenion anfeddygol. Er mwyn helpu i ddod o hyd i bobl, mae angen i ni sicrhau bod mwy o staff rheng flaen yn teimlo eu bod yn gallu cael y sgyrsiau hyn gyda phobl a bod gwasanaethau’n cefnogi pobl.

Dylai’r mewnwelediadau data hyn ysgogi gweithredu ond mae mwy y gallwn ei ddysgu o hyd. Byddai’n ddefnyddiol gwybod sut mae’r ffactorau risg hyn yn gysylltiedig â phontio – fel gadael cartref neu gael profedigaeth. Bydd yn bwysig gweld sut y gall gwasanaethau ddefnyddio’r mewnwelediadau hyn i dargedu eu gwaith. Byddai cysylltu’r mewnwelediadau hyn â phrofiad byw pobl hefyd yn rhoi darlun mwy crwn i ni ac yn helpu i egluro pam mae rhai pobl mewn mwy o risg a beth sy’n gweithio i leihau eu hunigrwydd. Yn y cyfamser, gallem ystyried a allai offer sgrinio helpu i ddod o hyd i bobl, fel mater o drefn.

Unigrwydd yw un o’r heriau cymdeithasol mawr sy’n ein hwynebu, a Chymru yw un o’r awdurdodaethau cyntaf yn y byd i gael strategaeth unigrwydd. Mae angen i ni ddysgu llawer mwy am unigrwydd ac mae dyfnhau ein dealltwriaeth o wahanol ffactorau risg ymhellach yn rhan hanfodol o’n gwaith tuag at gymdeithas lle nad oes unrhyw un yn unig ar lefel gronig.