Cyflwr democratiaeth yng Nghymru: Beth ydyw a sut allwn ni ei mesur?

Mae pryderon ynghylch iechyd democratiaeth yn ffenomen fyd-eang, sy’n aml yn cael ei sbarduno gan argyfyngau neu ddigwyddiadau sy’n arwain at bwysau cyhoeddus yn gofyn am ddiwygio. Fe wnaeth sefyllfa economaidd enbyd Gwlad yr Iâ yn dilyn yr Argyfwng Ariannol Byd-eang, er enghraifft, ysgogi ystod eang o ddiwygiadau i’w system ddemocrataidd. Yng Nghymru (a’r DU yn ehangach) mae trafodaethau ynghylch iechyd ein democratiaeth wedi canolbwyntio’n draddodiadol ar y ffaith bod niferoedd y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau yn isel. Does fawr o syndod pan nad yw’r nifer a bleidleisiodd erioed wedi cyrraedd mwy na 50% yn etholiadau’r Senedd, gyda’r sefyllfa o ran llywodraethau lleol yn waeth byth.

Ond er bod y nifer sy’n pleidleisio yn bwysig ac yn fater hawdd ei fesur, mae’n bell o fod yr unig brawf litmws o ran democratiaeth cenedl. Mae angen i ni hefyd ystyried cymryd rhan mewn prosesau sy’n ymwneud â democratiaeth sy’n brosesau y tu hwnt i etholiadau, ystyried ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio, ac ystyried materion yn ymwneud â’r ymddiriedaeth a’r hyder sydd gan bobl yn y gweithredwyr a’r sefydliadau democrataidd. Ymhlith materion cysylltiedig mae hawliau a rhyddid gwleidyddol, tryloywder prosesau democrataidd, ac argaeledd gwybodaeth o ansawdd da o ystod o ffynonellau – rhywbeth mae’r panel arbenigol ar ddatganoli darlledu yn ei archwilio ar hyn o bryd.

 

Mae pwy sy’n cymryd rhan yn bwysig

Un elfen gyffredin trwy’r holl themâu hyn yw’r syniad bod democratiaeth iach yn un gynhwysol: dylai pob grŵp, ond yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu tangynrychioli yn hanesyddol, fedru cymryd rhan. Mae gwaith diweddar yng Nghymru wedi canfod bod lefelau ymgysylltu â democratiaeth yn anghyfartal ar hyn o bryd, a bod angen dulliau wedi’u teilwra er mwyn sicrhau bod grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn ymgysylltu – yn enwedig menywod, pobl ifanc, pobl o gefndiroedd lleiafrifol o ran hil, a phobl sydd wedi derbyn lefelau isel o addysg. Bydd gwella dealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi iechyd democratiaeth yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar gynyddu ymgysylltiad y grwpiau hyn â phrosesau democrataidd.

 

Data ar iechyd democratiaeth

Cesglir rhywfaint o ddata ar iechyd democratiaeth yng Nghymru, ond maent yn ymwneud yn bennaf ag etholiadau. Er enghraifft, byddwn yn cael gwybod cyn hir trwy’r fersiwn ddiweddaraf o Arolwg Cenedlaethol Cymru sut y pleidleisiodd pobl yn etholiadau lleol 2022 (megis drwy bleidlais drwy’r post neu wyneb yn wyneb), ac mae tystiolaeth o natur yr agweddau at yr etholiadau ar gael o’r Comisiwn Etholiadol a’r Astudiaeth ar Etholiadau Cymru.  Fodd bynnag, mae data ynghylch etholiadau yn dameidiog o ystyried ‘y diffyg sydd o ran data’n ymwneud ag etholiadau’ yn y DU, ac er bod ffyrdd o fesur iechyd democratiaeth mewn ystyr ehangach, nid oes yr un eto wedi’i ddefnyddio i ystyried y sefyllfa yng Nghymru.  Mae Democratic Audit wedi bod yn asesu iechyd democratiaeth yn y DU ers dros 20 mlynedd gan ystyried agweddau ar ddemocratiaeth megis didwylledd etholiadol, lefelau cyfranogiad isel mewn materion etholiadol, cyfranogiad yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a chyfranogiad dinesig, a datganoli penderfyniadau i gymunedau a gwasanaethau cyhoeddus.

Ymhellach i ffwrdd, mae V-Dem yn casglu data yn unol â dros 450 o ddangosyddion sy’n gysylltiedig â phum egwyddor democratiaeth: etholiadol; rhyddfrydol; cyfranogol; trafodol; ac egalitaraidd; a hynny ar gyfer gwledydd ledled y byd. Gwnaed ymdrechion eisoes i greu synthesis o fynegeion fel y rhain, gydag un enghraifft yn dod i’r casgliad bod democratiaeth gref yn cynnwys pum elfen: dinasyddion wedi’u grymuso; prosesau teg; polisïau ymatebol; gwybodaeth a chyfathrebu; a chydlyniant cymdeithasol.

 

Mesur iechyd democratiaeth Cymru

Gydag etholiadau wedi’u datganoli i Gymru ers 2017, a llawer o waith wedi digwydd i wella systemau democratiaeth yng Nghymru ers hynny (o bleidleisio yn 16 oed, i’r cynlluniau peilot ar gyfer trefniadau pleidleisio hyblyg yn etholiadau lleol 2022, i’r Comisiwn Annibynnol a sefydlwyd yn ddiweddar ar Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru), mae hwn yn amser da i feddwl am sut i wella’r ffordd mae ein democratiaeth yn gweithredu ac yn tyfu. Ar gais y Cwnsler Cyffredinol, dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn anelu at nodi sut i ddiffinio, mesur a monitro iechyd democratiaeth Cymru, yn y ffordd orau. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar annog rhagor o bobl i chwarae rhan lawn mewn prosesau democrataidd cenedlaethol a lleol yng Nghymru, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd.