Diwygio cyfraith ac arferion etholiadol

Cafodd pŵer dros etholiadau ei ddatganoli i Gymru trwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen diwygio etholiadol sydd fwyaf nodedig am gynnig yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. Roedd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd wedi darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith diwygio etholiadol yn y dyfodol, yn enwedig o ran cofrestru awtomatig a defnydd dewisol o bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol.

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwilio i’r modd y mae newidiadau mewn gweinyddiaeth etholiadol wedi effeithio ar y nifer sy’n pleidleisio yn rhyngwladol, er mwyn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ac awgrymu meysydd posibl i’w gwella. Roedd yna bedwar maes ffocws:

  • Diogelwch ymgeiswyr ac asiantau
  • Arferion etholiadol arloesol
  • Ariannu ymgyrchoedd a’r gwariant arnynt
  • Pleidleisio cynnar

Dadansoddwyd rôl cyrff rheoli etholiadol hefyd.

Canfyddiadau ac argymhellion

Diogelwch ymgeiswyr ac asiantau

Mae bron pob ymchwil i ddiogelwch ymgeiswyr ac asiantau yn canolbwyntio ar rywedd a gwleidyddiaeth. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod trais a brofir gan weithredwyr gwleidyddol yn seiliedig ar rywedd a hil. Dylid ystyried hyn wrth ymgymryd â mesurau atal. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod y posibilrwydd o drais yn cael ei ystyried ym mhenderfyniad menywod a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i fynd trwy’r broses o ddod yn ymgeiswyr, ond nid yw pwysigrwydd y ffactor hwn yn glir.

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn dechrau mapio maint y broblem, gan ystyried cynnal arolwg diogelwch cyfnodol gyda gwleidyddion cenedlaethol a lleol. Awgrymir hefyd y dylid rhoi camau gweithredu ar waith gyda sefydliadau a gweithredwyr cymdeithasol i gynyddu dealltwriaeth, lliniaru gweithredoedd treisgar, a hyfforddi swyddogion gorfodi’r gyfraith.

Arferion etholiadol arloesol

Mae arferion arloesol, a elwir hefyd yn drefniadau pleidleisio arbennig (megis pleidleisio hyblyg, pleidleisio symudol, a gwelliannau mewn arferion cofrestru), wedi amlygu mân effeithiau ar y nifer sy’n pleidleisio, er nad yw’r ymchwil yn y maes hwn yn glir. Pleidleisio drwy’r post yw’r math o arfer arloesol sydd wedi amlygu’r effaith gryfaf ar gynyddu cyfranogiad.

Mae’r adroddiad yn argymell ymchwil pellach i ba un o’r mesurau hyn a fyddai’n cynyddu’r nifer sy’n pleidleisio ymhlith pleidleiswyr Cymru orau. Yn ogystal, awgrymir mesurau i leihau nifer y pleidleisiau drwy’r post a wrthodir.

Pleidleisio cynnar

Mae gan bleidleisio cynnar botensial i gynyddu ychydig ar y nifer sy’n pleidleisio os caiff ei gyfuno â mesurau eraill, megis cofrestru ar yr un diwrnod. Pobl mewn grwpiau oedran hŷn, a’r rhai sydd â lefelau uwch o ran diddordeb gwleidyddol, addysg ac incwm, sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio pleidleisio cynnar.

Argymhellir bod cyfnodau pleidleisio cynnar yn cynnwys dyddiau’r wythnos a phenwythnosau, bod cofrestru ar yr un diwrnod yn cael ei ganiatáu, a bod safleoedd pleidleisio yn cael eu gosod mewn modd sy’n ystyried anghenion pobl o ran pellter, mynediad at drafnidiaeth, a’r potensial i gyfuno gweithgareddau.

Ariannu ymgyrchoedd a thryloywder hyn

Mae yna ddigon o gyfle i Lywodraeth Cymru wella ei darpariaeth o ran data etholiadau a thryloywder. Byddai hyn yn gofyn am newidiadau yn y modd y mae pleidiau gwleidyddol yn casglu ac yn cyflwyno data ariannu ymgyrchoedd. Argymhellir y dylid adrodd yn swyddogol ar ganlyniadau etholiadau Cymru ac ariannu ymgyrchoedd, a hynny gydag offeryn ar-lein hawdd ei ddefnyddio a system ddata agored sy’n cynnwys yr holl ddata perthnasol.

Cyrff rheoli etholiadol

Canfuwyd y gall cyrff rheoli etholiadol helpu i sicrhau arfer effeithiol ym mhob un o’r meysydd a restrir uchod. Dylent fod yn rhagweithiol trwy gydol y flwyddyn o ran gweinyddu’r broses o gasglu data, cynnal ymgyrchoedd addysg, a gweithio gyda phleidiau gwleidyddol i wella tryloywder data.

 

https://doi.org/10.54454/20220325