Cerrig Milltir Cenedlaethol – Defnyddio tystiolaeth ac arbenigedd i adrodd ‘stori statws’

Daeth ‘ail don’ ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Cherrig Milltir Cenedlaethol i ben fis diwethaf.  Mae’r Cerrig Milltir yn ymwneud â chyfres o Ddangosyddion Cenedlaethol, a fynegir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n galluogi mesur cynnydd tuag at saith Nod Llesiant Cymru.

Mae’r Cerrig Milltir Cenedlaethol hyn yn cyd-fynd yn fwriadol â cherrig milltir sy’n gweithredu ar lefel ryngwladol: Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.  Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r cwestiwn sut i gyflwyno ac yna fesur cynnydd byd-eang – neu hyd yn oed genedlaethol – yn realistig ar unrhyw fater yn ymwneud â pholisi neu ddatblygu yn ennyn trafodaeth eang.  Er enghraifft, mae arbenigwyr yn rhybuddio bod y rhan fwyaf o wledydd yn bell o gyflawni targedau’r Nodau ar gyfer 2030 ac efallai na fydd y cerrig milltir rhyngwladol hyn nawr yn cael eu cyrraedd tan 2073.

Mae rôl bwysig i ymchwil a data ansawdd uchel a’r ffordd y caiff y rhain eu cyfleu a’u cynnwys mewn polisi.  Er enghraifft mae Nesta wedi gwneud sylw penodol, mewn perthynas â’r Cerrig Milltir Cenedlaethol, ar bwysigrwydd y cyfle hwn i ddefnyddio ‘data sydd eisoes yna’ a sicrhau bod ‘data ar gael yn rhwyddach’ i eraill.

Mae angen datblygu cerrig milltir gyda’r dystiolaeth orau sydd ar gael ac mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr blaenllaw – dyma’r cyfle gorau iddynt osod disgwyliadau realistig ac adrodd ‘stori statws‘ ystyrlon.  Neu, mewn geiriau eraill, gosod targed clir a galluogi mesur statws cynnydd yn ei erbyn a’i gyfleu’n glir dros amser.

Mae briffiadau tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi llywio meddylfryd Llywodraeth Cymru ar Gerrig Milltir Cenedlaethol yn ymwneud â thri Dangosydd Cenedlaethol ar gyfer mesur iechyd poblogaeth Cymru

  • y ganran o blant sydd â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy;
  • y ganran o oedolion sydd â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy;
  • disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig.

Mae hyn yn dilyn gwaith cynharach a wnaed gan WCPP i Lywodraeth Cymru yn 2015 ar lywio datblygiad y Dangosyddion Cenedlaethol eu hunain.  Roedd yr adroddiad yn tynnu ar y dystiolaeth oedd eisoes yn bodoli i ddarparu fframwaith ar gyfer nodi dangosyddion priodol yn seiliedig ar y Nodau Llesiant.  Roedd hefyd yn cynnig naratif drafft ar gyfer cyfleu hyn, a rhai dangosyddion arfaethedig i’w hystyried, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer y gyfres o ddangosyddion yn gyffredinol.

Mae’r cydweithio hwn gyda Llywodraeth Cymru trwy ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi parhau gydag ymchwil WCPP yn llywio’r tair Carreg Filltir, a bwydo tystiolaeth i mewn i gyfarfodydd bwrdd crwn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, arweinwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol eraill.  Aethom ati hefyd i gynnwys lleisiau academaidd blaenllaw – er enghraifft, yr Athro Syr Michael Marmot, arbenigwr ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a’r Athro Ben Barr, arbenigwr ar iechyd cyhoeddus cymhwysol – er mwyn cefnogi trafodaeth gadarn, gyfoes a chynnil ar y ffordd fwyaf effeithiol a realistig o osod y Cerrig Milltir hyn.  Cofnodwyd pwyntiau trafod ac argymhellion yr arbenigwyr yn y cyfarfodydd bwrdd crwn a’u defnyddio i fyfyrio ymhellach a diwygio’r briffiadau tystiolaeth lle’r awgrymwyd ffynonellau ychwanegol.

Mae’r gweithgarwch hwn gyda’i gilydd wedi chwarae rhan bwysig i alluogi Gweinidogion i ddrafftio Cerrig Milltir credadwy, yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymgynghori’n ehangach.