Cerrig Milltir Cenedlaethol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Llywodraeth Cymru bennu Dangosyddion Cenedlaethol er mwyn mesur y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol, a ddangosir yn y ffigur isod. Ar 16 Mawrth 2016, pennwyd 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion bennu Cerrig Milltir Cenedlaethol ar gyfer 2050 sy’n nodi disgwyliadau o ran cynnydd, gan gynnwys maint a chyflymder y newid sydd ei angen. Cafodd ‘ton gyntaf’ o wyth Carreg Filltir Genedlaethol ei chadarnhau yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2021. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu’r ‘ail don’ o Gerrig Milltir Cenedlaethol erbyn diwedd 2022.

Cafodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i grynhoi tystiolaeth ymchwil bresennol, a hynny er mwyn ei helpu i ddatblygu tair Carreg Filltir Genedlaethol ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol canlynol:

  • Dangosydd Cenedlaethol 2: Disgwyliad oes iach adeg genedigaeth yn cynnwys y bwlch rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig
  • Dangosydd Cenedlaethol 3: Canran yr oedolion â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy
  • Dangosydd Cenedlaethol 5: Canran y plant â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy*

Aeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ati i baratoi tri briff polisi a chyflwyno’r dystiolaeth hon mewn cyfarfodydd bord gron â swyddogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr polisïau, a wnaeth ennyn diddordeb arbenigwyr academaidd.  Mae modd gweld y briffiau polisi terfynol isod.

*Ers i ni benderfynu’n derfynol ar ein briff ar Ymddygiadau Ffordd Iach o Fyw Ymhlith Plant, newidiwyd Dangosydd Cenedlaethol 5 o ‘Canran y plant â llai na dau ymddygiad ffordd iach o fyw’ i ‘Canran y plant â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy’.

Y saith nod llesiant ar gyfer Cymru (Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, 2020)