Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a llesiant

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ledled Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau llesiant mis diwethaf, gan amlinellu sut mae gwasanaethau cyhoeddus a chyrff cenedlaethol yn bwriadu cydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol mewn ardaloedd ledled Cymru. Mae’r BGCau, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), bellach yn rhoi eu cynlluniau ar waith ac yn datblygu prosiectau amrywiol sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth i gymunedau yn y tymor hir.

I wneud hyn yn effeithiol, bydd angen i FGCau edrych yn ehangach na’r cyfuniad o wybodaeth a phrofiad a geir gan eu haelodau a’u sefydliadau cyfansoddol. I wneud gwahaniaeth wrth ymdrin â rhai o’r materion cyson a hollbresennol a nodwyd yn eu hasesiadau a’u cynlluniau llesiant, bydd angen iddynt edrych ymhell y tu hwnt i’w hardaloedd lleol i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio.

Ers pedair blynedd bellach, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i lywio penderfyniadau polisi Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Nawr rydym yn ymestyn y dull gweithredu hwn i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys BGCau. Rydym wedi bod yn edrych yn fanwl ar gynlluniau’r BGCau, ac yn trafod eu hanghenion ymchwil a thystiolaeth gyda nhw. Yn ddiweddar fe ddaethon ni â chydweithwyr ynghyd o amrywiol asiantaethau sy’n gweithio gyda BGCau, er mwyn gweld beth yw’r anghenion tystiolaeth cychwynnol hyn. Roedd yn gyfarfod defnyddiol oedd yn amlygu’r gefnogaeth ar gyfer dull o drosi tystiolaeth i lywio gweithgareddau BGC, megis ymgynghori ag arbenigwyr, cyfosod tystiolaeth a rhannu ymchwil ac arfer gorau rhyngwladol.

Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn parhau i archwilio anghenion tystiolaeth BGCau ac yn adeiladu ar ei rhaglen o waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.