Swyddog gweinyddol

Dyddiad cau 28 Ionawr 2024
Cyflog £26,444 - £29,605 (Gradd 4)
Lleoliad Caerdydd

Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Proffesiynol ymroddedig.

Drwy gydweithio’n agos â Rheolwr y Ganolfan, byddwch yn cefnogi holl brosesau gweinyddol ac ariannol y Ganolfan. Bydd gennych y gallu i weithio’n hyblyg fel rhan o dîm o 24 o staff y Ganolfan gan roi cymorth i bob agwedd o weinyddiaeth y Ganolfan, gyda phwyslais arbennig ar gyfathrebu a chyllid.

Mae dull arloesol CPCC wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol ac mae ein cyllid wedi’i adnewyddu’n ddiweddar am bum mlynedd arall tan 2028.  Mae’r swydd felly yn cynnig cyfle i ymuno â ni ar adeg arbennig o gyffrous, wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd o waith, ac i gyfrannu’n uniongyrchol at ei llwyddiant parhaus.

Mae’r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol fel aelod gwerthfawr o’n tîm colegol uchel ei gymhelliant. Byddwch wedi’ch lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ar Gampws Arloesedd £300 miliwn Prifysgol Caerdydd ac yn elwa o drefniadau gweithio hyblyg, cynllun pensiwn hael a buddion eraill, a mynediad at raglenni hyfforddiant a datblygiad proffesiynol helaeth y brifysgol.

Mae’r swydd ar gael yn llawn amser am 18 mis yn y lle cyntaf gyda’r posibilrwydd o adnewyddu wedi hynny, yn amodol ar argaeledd cyllid. Byddwn ni’n ystyried ceisiadau i ymuno â’r Ganolfan ar secondiad am o leiaf 18 mis.

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jude Langdon (jude.langdon@wcpp.org.uk).

CLICIWCH YMA am rhagor o wybodaeth ac i wneud cais