Cydymaith Ymchwil CPCC | IPPO

Dyddiad cau 28 Awst 2023
Cyflog £39,347 - £44,263 y flwyddyn (Gradd 6)
Lleoliad Caerdydd

Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn eithriadol i gyfrannu at ein gwaith gyda’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO). Mae’r swydd yn cynnig cyfle unigryw i reoli a chynnal ymchwil polisi o ansawdd uchel, gan weithio’n agos ag ymchwilwyr blaenllaw a llunwyr polisi sydd wrth wraidd datblygiadau polisi a thrafodaethau cyfredol gan gynnwys sut i gyflawni sero-net, trechu tlodi ac anghydraddoldebau a chefnogi’r broses o adfer ar ôl pandemig Covid-19.

Rhaid bod gennych ddealltwriaeth dda o bolisi cyhoeddus; y gallu i weithio’n uniongyrchol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus; ymrwymiad i ymchwil o ansawdd uchel sy’n berthnasol i bolisi; sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol; a’r gallu i weithio fel rhan o dîm ehangach y Ganolfan.

Mae’r swydd yn un llawn amser ac ar gael o 1 Medi 2023 tan 31 Mawrth 2025. Mae’r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol gyda threfniadau gweithio hyblyg; cynllun pensiwn hael a buddion eraill; cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi; a chanolfan yn y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) newydd ar Gampws Arloesi Caerdydd gwerth £300 miliwn. Mae’r Ganolfan yn cefnogi gweithio hybrid a bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio o’i swyddfeydd yng Nghaerdydd ddau ddiwrnod yr wythnos.

Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â’r Athro Steve Martin (Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – e-bost steve.martin@wcpp.org.uk ) neu Dan Bristow (Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer – e-bost dan.bristow@wcpp.org.uk ) am drafodaeth anffurfiol am y rôl. Byddwn ni’n ystyried ceisiadau i ymuno â’r Ganolfan ar secondiad am o leiaf 12 mis.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, am gyfnod penodol tan 31 March 2025.

CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i gwneud cais

Tagiau