Cydymaith Ymchwil

Dyddiad cau 21 Medi 2023
Cyflog £39,347 - £44,263 y flwyddyn (Gradd 6).
Lleoliad Caerdydd

Mae’n bleser gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wahodd ceisiadau i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth fel Cydymaith Ymchwil i gynnal ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau ac arferion gweithredu tystiolaeth.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr profiadol yn y Ganolfan ar astudiaethau sy’n helpu i lywio ei dull o weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ac asesu ei heffaith.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i gynnal ymchwil a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at y llenyddiaeth academaidd gynyddol ar bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â helpu i wella dealltwriaeth o sut y gall y Ganolfan wella ei heffaith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ehangu ei ddealltwriaeth o ddadleuon academaidd allweddol yn y meysydd hyn gan weithio o fewn Canolfan y cydnabyddir ei bod ar flaen y gad o ran ymchwil ac ymarfer yn y maes.

Mae’r swydd yn un amser llawn o 1 Hydref 2023 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Rydym yn agored i drefniadau rhannu swydd a gweithio hyblyg, fel oriau cywasgedig. Mae’r swydd i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth (gyda chyllid ychwanegol) am gyfnod penodol o ddwy flynedd tan ddiwedd Awst 2025. Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau sy’n cynnig secondiadau o leiaf flwyddyn o hyd.

CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION AC I WNEUD CAIS 

Tagiau