Cynorthwyydd Ymchwil

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn fenter unigryw gwerth £9 miliwn sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd. Ei chenhadaeth yw cynyddu’r defnydd o dystiolaeth ymchwil gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwella penderfyniadau polisi a’r canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

Mae’r Ganolfan yn annibynnol ar y llywodraeth, ond mae’n cydweithio’n agos â gweinidogion, gweision sifil, llywodraeth leol a’r gwasanaeth iechyd i gynhyrchu tystiolaeth a dadansoddiadau o ansawdd uchel sy’n llywio ac yn gwella strategaethau, polisïau a rhaglenni cenedlaethol a lleol. Mae’n rhan o rwydwaith What Works yn y Deyrnas Unedig ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y DU ac yn rhyngwladol i baratoi ymchwil ar sail tystiolaeth sy’n mynd i’r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol o bwys.

Mae’r rôl Cynorthwyydd Ymchwil yn cael ei chynllunio fel prentisiaeth 12 mis, mae’n gyfle unigryw i weithio wrth wraidd trafodaethau polisi presennol gan gynnwys sut i gyflawni trawsnewid cyfiawn i Sero-Net, lleihau tlodi, a hyrwyddo’r adferiad o bandemig Covid-19. Mae prentisiaid blaenorol yn astudio ar gyfer PhD, yn gweithio yn Llywodraethau’r DU a Chymru, ac mae rhai wedi symud ymlaen i swyddi ymchwil yn y Ganolfan. Rydym ni’n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy’n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, ac sy’n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy’n berthnasol i bolisïau.

Byddwch yn gweithio gydag ymchwilwyr profiadol i archwilio ac ymgymryd ag aseiniadau ar gyfer gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael eich mentora gan aelodau uwch o staff y Ganolfan. Cewch gyfleoedd i fynd ar ddau leoliad cysgodi gyda sefydliadau llywodraethol/polisi perthnasol megis Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at bapurau academaidd.

Mae’r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol o fewn tîm colegol uchel ei gymhelliant. Cewch fanteisio ar gyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd. Swydd amser llawn yw hon. Rydym yn cefnogi gweithio hybrid a threfniadau gweithio hyblyg eraill, ond yn disgwyl i staff weithio yn ein swyddfeydd yn y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol pwrpasol newydd a leolir ar Gampws Arloesi £300 miliwn Prifysgol Caerdydd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.

Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiwn canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Dylai eich ateb fod mor gryno â phosibl ac ni ddylai fod yn hwy na 250 gair:

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn darparu tystiolaeth sy’n galluogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i wneud penderfyniadau ynghylch polisïau a gwasanaethau cyhoeddus. Dychmygwch fod y Prif Weinidog wedi gofyn i ni ddarparu tystiolaeth ar ba ffactorau y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hystyried er mwyn asesu a yw’n bosib cyflawni sero-net yng Nghymru erbyn 2035. Mae angen adroddiad arno ymhen tri mis. Pa gamau fyddech chi’n eu cymryd er mwyn paratoi tystiolaeth ar gyfer y cwestiwn hwn?

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y blog a’r darn hwn sy’n pwyso a mesur y Cynllun Prentisiaethau. Os oes gennych chi gwestiwn am y rôl neu’n dymuno cael sgwrs anffurfiol amdani, cysylltwch â’r Prentis Ymchwil presennol: charlotte.morgan@wcpp.org.uk

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, am gyfnod penodol o 12 mis 01 Gorffennaf 2023.

Cyflog: £29,762 – £34,314 y flwyddyn (Gradd 5).

Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2023

CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i ymgeisio

Tagiau