Cynorthwy-ydd Ymchwil

Dyddiad cau 21 Medi 2023
Cyflog £32,332 - £34,980 y flwyddyn (Gradd 5)
Lleoliad Caerdydd

Mae’n bleser gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wahodd ceisiadau ar gyfer rôl newydd fel Cynorthwy-ydd Ymchwil i gynnal ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau ac arferion gweithredu tystiolaeth.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr profiadol yn y Ganolfan ar astudiaethau sy’n helpu i lywio ei dull o weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ac asesu ei heffaith.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i gynnal ymchwil a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at y llenyddiaeth academaidd gynyddol ar lunio polisïau ar sail tystiolaeth yn ogystal â helpu i wella dealltwriaeth o sut y gall y Ganolfan wella ei heffaith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ehangu ei ddealltwriaeth o ddadleuon academaidd allweddol yn y meysydd hyn gan weithio o fewn Canolfan y cydnabyddir ei bod ar flaen y gad o ran ymchwil ac ymarfer yn y maes.

CLICIWCH YMA AM FWY O FANYLION AC I WNEUD CAIS

Tagiau