Cymrawd Ymchwil

Dyddiad cau 17 Hydref 2023
Cyflog £49,794 i £54,395 y flwyddyn (Gradd 7)
Lleoliad Caerdydd

Rydyn ni’n gwahodd ceisiadau am swydd Cymrawd Ymchwil 12 mis sydd newydd ei chreu i helpu i arwain ei gwaith gyda gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r swydd yn gyfle unigryw i weithio yng nghanol trafodaethau ynghylch polisïau cyfredol a gwneud gwahaniaeth er gwell ym maes penderfyniadau polisïau a deilliannau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd yn galluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ehangu eu dealltwriaeth o ddatblygiadau a rhwydweithiau polisi allweddol yng Nghymru, a’u gwybodaeth am ddefnydd o dystiolaeth mewn prosesau polisi.

Caiff Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal a Prifysgol Caerdydd, ac mae’n pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a llunwyr polisïau / ymarferwyr trwy gynhyrchu, coladu a gwneud defnydd o dystiolaeth ymchwil.

Daw’r staff o sawl cefndir gwahanol – gan gynnwys y byd academaidd, y gwasanaeth sifil, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, melinau trafod a’r sector gwirfoddol. Mae’r Ganolfan yn aelod o rwydwaith What Works, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr fawreddog Dathlu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a chaiff ei chydnabod yn rhyngwladol am ei dull arloesol, seiliedig ar alw, o ddefnyddio tystiolaeth a gweithredu gwybodaeth.

Cewch fanteisio ar fynediad rhagorol at lunwyr polisïau lefel uchel a goruchwylio gwaith ymchwilwyr yn y Ganolfan ac arbenigwyr allanol blaenllaw. Mae gwaith y Ganolfan yn cwmpasu ystod eang o feysydd polisi ond ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio’n benodol ar les cymunedol, yr amgylchedd a sero-net, ac anghydraddoldebau.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol gyda threfniadau gweithio hyblyg, cynllun pensiwn hael a buddion eraill, cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi, a swyddfeydd ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd, ar Gampws Arloesedd Caerdydd, sydd werth £300 miliwn.

Mae hon yn swydd amser llawn ar gael o 1 Tachwedd 2023 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny) am 12 mis. Rydym yn croesawu ceisiadau am secondiad i’r swydd.

Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Dan Bristow (Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer):  dan.bristow@wcpp.org.uk neu James Downe (Cyfarwyddwr Ymchwil): james.downe@wcpp.org.uk

Tagiau