Cydymaith Ymchwil

Dyddiad cau 14 Ebrill 2024
Cyflog £39,347 - £44,263 y flwyddyn (Gradd 6).
Lleoliad Caerdydd

Rydym am recriwtio unigolyn rhagorol i gyfrannu at ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru . Mae’r swydd yn cynnig cyfle unigryw i reoli a chynnal ymchwil polisi o ansawdd uchel, gan weithio’n agos ag ymchwilwyr blaenllaw a llunwyr polisi sydd wrth wraidd datblygiadau polisi a thrafodaethau cyfredol gan gynnwys sut i gyflawni sero net, trechu anghydraddoldebau, a chefnogi llesiant cymunedol.

Rhaid bod gennych ddealltwriaeth dda o bolisi cyhoeddus; y gallu i weithio’n uniongyrchol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus; ymrwymiad i ymchwil o ansawdd uchel sy’n berthnasol i bolisi; sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol; a’r gallu i weithio fel rhan o dîm ehangach y Ganolfan.

Mae’r swydd yn un llawn amser tan 31 Mawrth 2028 gyda’r posibilrwydd o adnewyddu wedi hynny, yn amodol ar argaeledd cyllid. Mae’r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol gyda threfniadau gweithio hyblyg; cynllun pensiwn hael a buddion eraill; cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi; a chanolfan yn y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) newydd ar Gampws Arloesi Caerdydd gwerth £300 miliwn. Mae’r Ganolfan yn cefnogi gweithio hybrid a bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio o’i swyddfeydd yng Nghaerdydd ddau ddiwrnod yr wythnos.

Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â’r Athro James Downe (Cyfarwyddwr Dros Dro, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – e-bost james.downe@wcpp.org.uk ) neu Dan Bristow (Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer – e-bost dan.bristow@wcpp.org.uk ) am drafodaeth anffurfiol am y rôl.  Byddwn ni’n ystyried ceisiadau i ymuno â’r Ganolfan ar secondiad am o leiaf 12 mis.

Mae’r Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymraeg, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, yn pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a llunwyr polisi/ymarferwyr trwy gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth o ymchwil sy’n gwella penderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus.

CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i wneud ymgais.