Stigma tlodi

Statws prosiect Ar Waith

Roedd ein hymchwil diweddar ar brofiad bywyd o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â stigma tlodi – mae stigma tlodi yn niweidio iechyd meddwl pobl sydd mewn tlodi, ac mae’n gallu ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw neu gymryd rhan yn eu cymunedau.

Mewn ymateb ac fel rhan o’r Arsyllfa Ryngwladol Polisïau Cyhoeddus, rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisïau yng Nghymru i ddeall stigma tlodi a sut mae’n effeithio ar eu cymunedau. Bydd ein gwaith yn ceisio canfod beth gall gwasanaethau cyhoeddus ei wneud i sicrhau bod eu gwasanaethau’n lleihau yn hytrach nag yn (at)gynhyrchu stigma tlodi.

Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom gynnal gweithdy wyneb yn wyneb yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam. Denwyd cymysgedd eang o bobl o bob cwr o Gymru a’r DU, gan gynnwys llunwyr polisïau o fyd llywodraeth leol a chenedlaethol, ymarferwyr, pobl ifanc, ac arbenigwyr academaidd a’r rhai oedd â phrofiadau o dlodi.

Yn dilyn y gweithdy wyneb yn wyneb, fe wnaethom gynnal ail weithdy ar-lein ddechrau mis Rhagfyr 2023. Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys cymysgedd o’r rhai a ymunodd â ni yn Wrecsam a’r rhai nad oeddent wedi gallu bod yno. Pwrpas yr ail sesiwn hon oedd adeiladu ar yr hyn yr oeddem wedi’i ddysgu gyda’n gilydd o ganlyniad i’n trafodaethau yn Wrecsam, i nodi rhai syniadau ar gyfer gwaith y gallai WCPP ac eraill eu datblygu i helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio’r dystiolaeth orau i fynd i’r afael â stigma tlodi yn fwy effeithiol.

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r syniadau a ddeilliodd o’r ddau weithdy, mewn cydweithrediad â Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe ac APLE.

Byddwn yn mynd ati wedyn i geisio profi a mireinio cynigion ar gyfer cam nesaf y gwaith hwn gyda phartneriaid posibl mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mewn mannau eraill.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yng ngham nesaf ein gwaith i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â stigma tlodi, neu os ydych yn lluniwr polisïau neu’n ymarferydd, ac mae gennych ddarn penodol o waith mewn golwg a fyddai’n ddefnyddiol, ebostiwch dîm y prosiect drwy ddefnyddio’r manylion isod:

Gweler erthygly Amanda Hill-Dixon at stigma tlodi yn yr MJ: Cutting Through The Stigma