Stigma tlodi – beth ydyw, o ble y daw a pham rydyn ni’n gweithio arno?

Rydyn ni’n lansio rhaglen waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru i ddeall mwy am stigma tlodi a sut mae’n effeithio ar eu cymunedau.

“Dim arian, dim bwyd, mae’n effeithio ar eich iechyd meddwl ac yna’n ei wneud yn wael oherwydd rydych chi wastad yn poeni a ydych chi’n mynd i gael eich nwy a’ch trydan”

“Ro’dd gen i gywilydd pan fu’n rhaid i fi ffonio i fynd i fanc bwyd. Ro’n i’n ei gasáu, yn ei gasáu’n llwyr. Doeddwn i erioed wedi teimlo cymaint o embaras yn fy mywyd.”

 

Fel y dangosir yn y dyfyniadau hyn o’n hymchwil am brofiadau bywyd o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru, mae effeithiau tlodi yn mynd ymhell y tu hwnt i elfennau ariannol a materol bywydau pobl a gallan nhw effeithio ar eu lles a’u hiechyd meddyliol. Yn wir, ceir tystiolaeth gref yn rhyngwladol ac yng Nghymru bod tlodi ac iechyd meddwl gwael yn gysylltiedig â’i gilydd a bod yna berthynas o ddau gyfeiriad.

  • Yn fyd-eang, mae’r rhai sydd â’r incwm isaf 1.5-3 gwaith yn fwy tebygol na’r cyfoethog o brofi iselder a gorbryder
  • Yng Nghymru, mae’r plant tlotaf bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anawsterau iechyd meddwl difrifol na’r rhai o’r ardaloedd cyfoethocaf.

Mae ystod eang o fecanweithiau sy’n cysylltu tlodi ag iechyd meddwl a llesiant gwael. Fel y dangosir yn yr ail ddyfyniad uchod, ac yn yr ymchwil hwn, un o’r mecanweithiau a ddaeth i’r amlwg yn ein hymchwil o brofiadau bywyd oedd rôl stigma wrth gysylltu tlodi a lles meddyliol gwael. Mae diffiniadau amrywiol o stigma, ond un o’r rhai enwocaf yw cysyniadoli clasurol y cymdeithasegwr Erving Goffman o stigma yn 1963 fel ‘sefyllfa’r unigolyn sydd wedi’i wahardd rhag cael ei dderbyn yn llawn mewn cymdeithas’. Ers hynny, mae ysgolhaig blaenllaw ar dlodi yn y DU, Ruth Lister, wedi cysylltu hyn â thlodi gan ddadlau bod pobl yn profi tlodi ‘nid yn unig fel cyflwr economaidd ansicr, ond hefyd fel perthynas gymdeithasol gywilyddus a difaol’.

Mae ymchwil seicolegol mwy diweddar wedi dadbacio’r berthynas hon ac wedi canfod bod stigma tlodi yn gysylltiedig â phedair agwedd ar iechyd meddwl gwael: hunan-barch gwael, ynysigrwydd cymdeithasol, cywilydd ac embaras a salwch meddwl (fel iselder). Mae stigma tlodi yn bwysig oherwydd ei fod yn fath o ddioddefaint ynddo’i hun. Mae hefyd yn cyfyngu ar barodrwydd pobl i geisio neu dderbyn cymorth, neu i gymryd rhan yn eu cymunedau, y mae’r naill a’r llall yn hanfodol ar gyfer lles unigolion a chymunedol.

Ond mae hefyd yn bwysig gofyn, fel y mae Imogen Tyler yn ei ddadlau, ‘ble mae stigma’n cael ei greu, gan bwy ac at ba ddiben?’. Wrth wneud hynny, datgela Tyler nad naratif gwleidyddol a chyfryngol ac agweddau cymdeithasol yn unig sy’n creu stigma, ond hefyd yn aml cyfarpar y wladwriaeth – gwasanaethau cyhoeddus – sy’n anelu at helpu pobl, sy’n gallu creu profiadau o stigma yn y ffordd y cânt eu cynllunio a’u cyflwyno. Mae’r iaith a’r naratif a ddefnyddir gan wasanaethau cyhoeddus yn un o’r ffyrdd y mae hyn yn digwydd.

Er enghraifft, mae un o aelodau ‘Tîm Cynllunio Archwilio Tlodi a Stigma’ Sefydliad Joseph Rowntree sydd hefyd yn gweithio mewn cymdeithas dai, wedi tynnu sylw at yr iaith ymosodol a dad-ddyneiddiol a ddefnyddir weithiau gan wasanaethau cyhoeddus – sydd weithiau’n disgrifio gwasanaethau fel ‘rheng flaen’ neu ‘unedau’ yn lle cartrefi. Canfu’r Tîm Cynllunio fod iaith o’r fath yn aml yn pwysleisio rhaniad rhwng pobl mewn tlodi a phobl sy’n cael eu cyflogi gan wasanaethau sy’n gweithio i ddod â thlodi i ben, a gall atgyfnerthu stigma.

O ystyried y cyfoeth o dystiolaeth ar stigma tlodi, ei effeithiau ac o ble y daw, croesewir y ffaith bod Strategaeth ddrafft Tlodi Plant Cymru gan Lywodraeth Cymru (2023) yn cydnabod yn benodol yr angen i fynd i’r afael â thlodi fel un o’i bum amcan. Serch hynny, yr hyn sy’n llai amlwg yw rôl gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol yng Nghymru wrth fynd i’r afael â stigma tlodi.

Gellir dadlau mai’r hyn sy’n allweddol i fynd i’r afael â stigma tlodi yw taclo tlodi yn uniongyrchol, cymryd agwedd ‘arian yn gyntaf’ drwy roi mwy o arian i bobl drwy nawdd cymdeithasol, ‘incwm sylfaenol’ posib a sicrhau bod incwm yn cael ei gynyddu i’r eithaf. Serch hynny, mae adnoddau ariannol a phwerau prin Llywodraeth Cymru, ac yn fwy fyth, llywodraethau lleol Cymru, yn golygu bod buddsoddiadau newydd mewn rhaglenni trosglwyddo arian ar raddfa fawr allan o gyrraedd i raddau helaeth, er bod trafodaethau yn mynd rhagddynt ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatganoli nawdd cymdeithasol o’r DU i Lywodraeth Cymru.

Yng nghyd-destun presennol adnoddau a phwerau prin, mae pwyslais ar ddimensiynau seico-gymdeithasol tlodi – fel stigma tlodi – yn debygol o fod yn ffordd effeithiol o leihau niwed tlodi a chefnogi pobl allan o dlodi.

Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac fel rhan o’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus, rydyn ni’n lansio rhaglen waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru i ddeall stigma tlodi a sut mae’n effeithio ar eu cymunedau, ac yn hollbwysig, nodi’r hyn y gallan nhw ei wneud i sicrhau bod eu gwasanaethau’n lleihau yn hytrach nag (ail)gynhyrchu stigma tlodi.

Rydyn ni’n gweithio gyda gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, academyddion ac ymchwilwyr ac arbenigwyr o brofiad, i ddod â’r ystod lawn o arbenigedd at y cwestiwn hwn, gan gydnabod bod stigma tlodi yn ffenomena cymdeithasol a thrwy brofiadau na fydd yn cael ei ddatrys heb fewnwelediad y rhai sydd â phrofiadau bywyd o’r anghyfiawnder hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y gwaith hwn neu i gymryd rhan, cysylltwch a Charlotte Morgan charlotte.morgan@wcpp.org.uk