Tlodi ac allgáu cymdeithasol: Ffordd ymlaen

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan y Polisïau Cyhoeddus adolygu strategaethau, rhaglenni a chamau lleddfu tlodi ac allgáu cymdeithasol ledled y byd. Mae cyfres o adroddiadau wedi’i pharatoi yn rhan o’r prosiect hwn, gan adolygu digon o dystiolaeth ar wahanol lefelau, gan gynnwys tystiolaeth o raglenni unigol sy’n anelu at fynd i’r afael â rhai o elfennau penodol tlodi ac allgáu cymdeithasol a thystiolaeth o hanfod strategaeth wrth-dlodi genedlaethol effeithiol. Mae’r adolygiad wedi ystyried tystiolaeth feintiol ac ansoddol ynghyd â phrofiad pobl i ofalu bod y canfyddiadau’n gyfoes ac yn cyfleu darlun cywir o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â thystiolaeth berthnasol o ddulliau llwyddiannus ledled y byd, i lywio canfyddiadau a phenderfyniadau’r dyfodol ynghylch lleddfu tlodi yng Nghymru.

Nod yr adroddiad hwn yw cyflwyno tystiolaeth sylweddol a ddeilliodd o brosiect llunio a llywio trafodaethau Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf. Yn hytrach na cheisio crynhoi canfyddiadau allbynnau’r prosiect, mae’r adroddiad yn dewis peth o’r cynnwys i gynnig casgliadau am sut y dylai Llywodraeth Cymru drin a thrafod ymdrechion i leddfu tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y wlad hon yn ôl sut mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn ymwneud â’i gilydd.

Felly, mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno’r diffiniad o dlodi ac allgáu cymdeithasol oedd wedi’i fabwysiadu i ategu’r ymchwil a’r rhesymeg sylfaenol. Yna, mae’n dadansoddi tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Wedi hynny, rydyn ni’n disgrifio pum peth allweddol i’w hystyried wrth ofyn sut mae lleddfu tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y wlad hon. Daw’r adroddiad i ben trwy bennu pedwar maes i ganolbwyntio arnyn nhw yn ôl tystiolaeth, a’r hyn mae angen ei wneud ar draws polisïau i symud ymlaen. Dyma’r pedwar maes: costau byw; llwybrau allan o argyfwng; galluogi pobl; llwyth ac iechyd y meddwl. At ei gilydd, maen nhw’n rhoi darlun o sut y gallen ni lunio fframwaith sy’n blaenoriaethu camau lleddfu tlodi ac yn dangos y trywydd ar eu cyfer.