Adolygiad o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru

Mae Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru wedi paratoi dau adroddiad ar dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru yn rhan o’i gorchwyl i adolygu strategaethau, rhaglenni a chamau rhyngwladol ym meysydd tlodi ac allgáu cymdeithasol i Lywodraeth Cymru. Mae’r naill adroddiad yn canolbwyntio ar dystiolaeth feintiol, ac mae’r llall yn trafod tystiolaeth ansoddol eilaidd ynghylch profiad pobl o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad ansoddol yn cyfleu darlun o dueddiadau’r gorffennol a’r presennol a’r rhai a allai godi yn y dyfodol ynghylch tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Ei ddiben yw llywio a llunio prosiect ehangach y ganolfan trwy daflu goleuni ar gwmpas a thrywydd tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y wlad hon. Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o adroddiadau ac ystadegau Llywodraeth Cymru, adroddiadau Llesiant Cymru yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ac adroddiadau cyrff megis Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae’r adolygiad o dystiolaeth ynghylch profiad pobl yn ystyried y dystiolaeth ansoddol sydd ar gael am brofiad pobl o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n canolbwyntio ar dystiolaeth ansoddol i alluogi pobl i ddisgrifio eu profiad mewn modd manwl, agored a hyblyg o’i chymharu â thystiolaeth feintiol lle y bydd rhaid ceisio deall profiad pobl yn ôl categorïau penodol, yn aml. Mae’r adolygiad yn defnyddio tystiolaeth o’r byd academaidd a’r tu allan iddo (megis ‘deunydd llwyd’) ac yn canolbwyntio ar 12 dimensiwn ddewisodd Llywodraeth Cymru o ran allgáu cymdeithasol.

At ei gilydd, mae’r canfyddiadau’n dangos bod tlodi ac allgáu cymdeithasol yn faterion pwysig yng Nghymru. Ar y cyfan, mae’r dystiolaeth yn pwysleisio cyflwr cyfnewidiol tlodi ac allgáu cymdeithasol ynghylch tueddiadau’r wlad a phrofiad rhywun o dlodi ac allgáu cymdeithasol drwy gydol ei einioes. Yn sgîl pandemig Firws Corona a’r ymadawiad ag Undeb Ewrop, bydd ehangder a natur tlodi yn parhau i esblygu, gan gymhlethu’r sefyllfa eto fyth. Mae’r sefyllfa gyfnewidiol a goblygiadau newid cyllidebau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod angen cymryd yr un camau nifer o weithiau. At hynny, mae’r sefyllfa gyfnewidiol yn rhoi rhagor o bwyslais ar nodi profiad pobl yn ystyrlon (hynny yw, barn tlodion Cymru am sut maen nhw’n byw a sut mae rhai o’u cydnabod yn byw ar hyn o bryd) drwy’r amser i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall rhagor na’r hyn y gall data neu dystiolaeth feintiol ei gyfleu.