Partneriaeth sero net i gynorthwyo llywodraeth leol

Statws prosiect Ar Waith

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cydlynu rhaglen cymorth pontio ac adfer newid hinsawdd i weithio tuag at gyflawni uchelgais cyffredinol y sector cyhoeddus o gyrraedd sero net erbyn 2030, a’r targedau interim a amlinellir yn Cymru Sero Net – Cyllideb Garbon 2 (2021-25). Mae gan lywodraeth leol rôl hollbwysig i’w chwarae o ran arwain ymdrechion ar y newid i sero net ar lefelau lleol a rhanbarthol, mewn meysydd fel caffael, ynni, defnyddio tir, cynllunio, trafnidiaeth a rheoli gwastraff. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus a’r angen i harneisio arbenigedd allanol i leihau allyriadau yn golygu bod ymgysylltu â’r sector preifat yn hanfodol.

Mae CLlLC wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) archwilio a thynnu sylw at astudiaethau achos o arfer da wrth ymgysylltu â llywodraeth leol gyda’r sector preifat o wledydd a rhanbarthau eraill. Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd adnoddau sy’n bodoli eisoes, gan grynhoi’r prif rwystrau i arferion da a’r rhai sy’n eu hwyluso. Bydd ffocws penodol ar y cydbwysedd rhwng newid uniongyrchol yn y sector cyhoeddus a’r cyfle i ddylanwadu ar ymddygiad y sector preifat, gan ddeall beth sydd wedi arwain at ymgysylltu effeithiol. Bydd archwilio’r potensial ar gyfer cyllido mentrau sero net yn y sector preifat yn rhan allweddol o hyn.