Dyfodol Gwaith yng Nghymru

Statws prosiect Cwblhawyd

Yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn 2016, gofynnodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrh Carwyn Jones, am ymchwiliad dwfn a thrylwyr i natur newidiol gwaith.

Er mwyn braenaru’r tir ar gyfer hyn, gofynnwyd i ni adolygu’r sail dystiolaeth bresennol er mwyn ymchwilio i’r hyn sy’n hysbys ac sy’n anhysbys am ddyfodol gwaith yng Nghymru.

Gwnaethom adolygu’r dystiolaeth, gyda’r nod o adnabod tueddiadau pwysig a senarios yn y dyfodol, y cyfleoedd a’r heriau y mae’r rhain yn eu creu i Gymru, a sut y byddai Llywodraeth Cymru am ymateb. Yn ystod y broses, gwnaethom hefyd geisio nodi bylchau yn y dystiolaeth a’r meysydd lle byddai rhagor o ymchwil yn ddefnyddiol i Weinidogion yn ein barn ni.

Mae hwn yn fater sydd o ddiddordeb ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol. Wrth gyflwyno ein gwaith, roeddem yn awyddus i ddod â rhai o’r prif feddylwyr yn y maes hwn ynghyd er mwyn i bob un ohonom allu cyflwyno ein gwaith a thrafod y goblygiadau.