Llwybrau Atal Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

Statws prosiect Ar Waith

Mae mynd i’r afael â digartrefedd, a lleihau’r risg o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn benodol, yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Wrth lansio cynghrair Cymru ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2017, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai’n gofyn i ni ymchwilio i achosion digartrefedd ymhlith pobl ifanc a ffyrdd effeithiol o’i atal. Rydym yn gwneud y gwaith hwn nawr.

Yr her o ran polisi yw datblygu gwybodaeth ac ymarfer presennol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, er mwyn nodi llwybrau effeithiol a all atal pobl ifanc rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Er mwyn sicrhau llwybrau effeithiol, mae’n debygol y bydd angen dealltwriaeth o’r ffactorau hirdymor sy’n golygu bod person ifanc yn fwy tebygol o brofi digartrefedd.