Adolygiad tystiolaeth gyflym o gydraddoldeb hiliol

Statws prosiect Ar Waith

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a luniwyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol ac ethnig strwythurol yng Nghymru. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiadau tystiolaeth i lywio datblygiad y Cynllun Gweithredu ar draws chwe maes polisi allweddol: arweinyddiaeth a chynrychiolaeth,iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth ac incwm, addysg, tai a llety, a throsedd a chyfiawnder.

Dewiswyd y chwe maes polisi mewn ymgynghoriad â swyddogion Llywodraeth Cymru, arbenigwyr academaidd a Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Dewiswyd nifer fach o feysydd polisi i sicrhau bod yr ymchwil yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth allweddol, a fyddai’n debygol o gael yr effaith fwyaf ar fywydau unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Roedd casglu’r dystiolaeth yn galw am fynd ati ar frys i adolygu’r gwaith ymchwil oedd eisoes yn bodoli, ymchwiliadau swyddogol ac adroddiadau sydd wedi casglu tystiolaeth ynghylch profiad cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.  Gan weithio’n bennaf gydag arbenigwyr o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, fe wnaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru asesu a syntheseiddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i ddarparu crynodeb o’r argymhellion ar gyfer gweithredu ar draws pob un o’r chwe maes polisi.

Aethom ati hefyd i gynnull bord gron a fynychwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru a deunaw o arbenigwyr academaidd ac ymarferol, a mynychu cyfres o sesiynau ‘plymio’n ddwfn i bolisi’ a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i drafod canfyddiadau ym mhob maes polisi gydag ystod o swyddogion, rhanddeiliaid, sefydliadau cymunedol, a phobl â phrofiadau bywyd.

Yn ogystal â’r adolygiadau tystiolaeth ar y chwe phwnc hyn, mae’r Ganolfan wedi cynhyrchu adroddiad sy’n crynhoi’r themâu trawsbynciol a’r negeseuon trosfwaol a amlygwyd gan ein hymchwil. Mae’r adroddiad cryno hefyd yn argymell egwyddorion a all helpu i sicrhau bod y camau gweithredu a gynhwysir yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn cael eu gweithredu’n effeithiol.