Cyflawni’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Nod Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol strwythurol yng Nghymru er mwyn gwneud ‘newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy fynd i’r afael â hiliaeth’ a chyflawni ‘Cymru sy’n wrth-hiliol erbyn 2030’. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Gorffennaf ac mae’r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

Bydd cyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol hon yn gofyn am gamau gweithredu ar y cyd sydd wedi’u hystyried yn ofalus. Bydd angen i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus greu cyfres glir iawn o flaenoriaethau a metrigau i sicrhau cyfrifoldeb dros gyflawni gwelliannau mesuradwy mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol. Gan adeiladu ar yr argymhellion yn adolygiadau tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar wella cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, a lywiodd y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, mae’r sylwebaeth hon yn tynnu sylw at rai o’r camau a allai fod yn angenrheidiol neu’n ddefnyddiol er mwyn cyflawni nodau’r Cynllun.