Gwreiddio hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig ym myd addysg yng Nghymru

“Hanes pobl ddu yw hanes Cymru, a hanes Cymru yw hanes pobl ddu”

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ( Hydref 2020 )

 

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru 2022 yn cyflwyno her ddiddorol ar gyfer symud ymlaen â’r uchelgais o weld cynrychioli persbectif, hanes a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi’u gwreiddio ym mhrofiad addysgol pob plentyn yng Nghymru. Sut gallwn ni sicrhau bod sylw perthnasol, cadarn a digonol yn cael ei roi i’r thema hon yn absenoldeb rhagnodi, mewn cwricwlwm sy’n caniatáu cymaint o ymreolaeth? Nid yw’r ateb mor syml ag y gallai ymddangos. Mae adnoddau cwricwlwm a datblygiad proffesiynol yn bwysig, ond maent yn cynnwys cafeatau sylweddol o ran mynd i’r afael â’r hyn y mae tystiolaeth amlwg ohono: sef bod anghydraddoldebau hiliol yn bla ar y system addysg yng Nghymru, o ran cyrhaeddiad, proffil y gweithlu a phrofiad bywyd ym myd addysg i blant a phobl ifanc o ystod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae hyn wedi bod yn wir ers amser maith.

Brîff y gweithgor ‘Cymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau BAME a’r cwricwlwm newydd’ a gomisiynwyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, oedd ystyried sut i gryfhau’r thema hon ym mhob un o ‘Feysydd Dysgu a Phrofiad’ y cwricwlwm newydd yng Nghymru – nid yn y dyniaethau a’r celfyddydau yn unig. Felly, mae ennyn sylw athro mathemateg yr un mor bwysig ag ennyn sylw athro cerdd. Ar ben hynny, nid braint athrawon mewn ysgolion aml-ethnig yn unig yw rhoi sylw i’r pryderon hyn, yn hytrach, mae’n hanfodol bod hyn yn destun sylw, yn cael ei archwilio ac yn dod i’r amlwg mewn ysgolion y tu hwnt i’r metropolis; i bob pwrpas yn holl ysgolion Cymru.

Yn rhy aml, dehonglir y thema hon yn y cwricwlwm ar ffurf gwersi ar gaethwasiaeth, neu bytiau o hanes hawliau sifil yr Unol Daleithiau fel stori Rosa Parks neu araith enwog ‘Mae gen i freuddwyd’ gan Martin Luther King. Tuedd arall yw dadorchuddio hanesion lleol am gymeriadau unigol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, fel John Ystumllun, Dorothy Bonarjee neu’r bechgyn oedd yn mynychu Sefydliad y Congo ar droad yr 20fed ganrif, heb eu cysylltu â hanes ehangach amrywiaeth – hynny yw, hanes Cymru – neu eu rhoi yng nghyd-destun datblygiad sosio-economaidd Cymru yn y byd.

O’r braidd y ceir unrhyw ddealltwriaeth drylwyr o wrth-hiliaeth, ar lefel hanesyddol na chyfoes, ac o ganlyniad, mae’r ffocws hwn ar naratifau am gyfraniad unigolion yn tynnu sylw oddi ar ffocws ar hawliau sylfaenol, urddas a chydraddoldeb.  Mae’r wybodaeth ehangach hon am wahaniaeth ac amrywiaeth, cydsafiad a chynghreiriau, a gwrthdaro a herio, ddoe a heddiw, yn rhodd i bob plentyn yng Nghymru; hawl i gael mynediad i gronfa o wybodaeth nad yw’n sefydlog nac yn derfynol ond sy’n parhau i ddatblygu.  Bydd mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfredol, wrth gwrs, yn golygu llawer mwy na llenwi cynnwys. Bydd angen newid diwylliant trwyadl – patrwm newydd sy’n adlewyrchu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, sef bod  ‘ ymarferwyr yn meddwl o’r newydd am yr hyn maen nhw’n ei ddysgu, sut maen nhw’n addysgu, ac am yr hyn rydyn ni am i bobl ifanc fod yn ogystal â dysgu’

Os ydym am sicrhau unrhyw effaith barhaol, ni ellir gweld y gwaith o ail-lunio’r dimensiwn diffyg gwybodaeth wrth ddiwygio’r cwricwlwm ar wahân i ystod o fesurau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sosio-economaidd sy’n seiliedig ar wahaniaeth hil ac ethnigrwydd. Byddai pob addysgwr yn cydnabod honiad Bernstein (1970), sydd bellach yn glasur, sef ‘Na all addysg wneud iawn am gymdeithas’. Mae cymdeithas Cymru yn datgelu anghydraddoldebau hiliol a sosio-economaidd sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac sy’n effeithio’n sylweddol ar ddysgwyr; bydd angen gweithredu sylweddol, eang a pharhaus, a mesur sylweddol o ymrwymiad, i wireddu newid. Ond yn yr un modd, mae gan addysg ran hanfodol i’w chwarae, yn enwedig wrth hyrwyddo cyrff o wybodaeth drawsffurfiannol (nid trosglwyddadwy yn unig), ac wrth sefydlu fframweithiau ac egwyddorion lle gellir archwilio ac ail-weithio syniadau beirniadol a dadleuol mewn ymgais i baratoi ieuenctid Cymru i fod yn ‘ddinasyddion moesegol a gwybodus i Gymru a’r byd’ .

Gweler yr Adroddiad Interim yma. Bydd adroddiad terfynol y gweithgor yn cael ei gyhoeddi ar 19 Mawrth.


Am yr awdur:

Yr Athro Charlotte Williams OBE yw cadeirydd y gweithgor ‘Cymunedau, cyfraniadau a chynefin: profiadau BAME a’r cwricwlwm newydd’, a fydd yn cwblhau adolygiad o’r adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol a ‘chynefin’ ar draws holl rannau’r cwricwlwm.   Bu Charlotte yn cynghori gwaith WCPP wrth gefnogi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar ei gwaith a’i harbenigedd ym maes gwella cydraddoldeb hiliol ym myd addysg, yn ogystal ag ar lefel ehangach yng Nghymru.