Dewch i ni drafod unigrwydd

Yn ystod ‘Wythnos Unigrwydd’, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn bwriadu darparu cyfres o gyhoeddiadau bydd yn cwmpasu sawl agwedd o ymchwil i ymwneud gyda’r pwnc pwysig yma

Mae unigrwydd yn deimlad goddrychol a brofir pan fo bwlch rhwng cyswllt cymdeithasol dymunol a gwirioneddol (Age UK, 2021).

Er bod unigrwydd yn wahanol i ynysu cymdeithasol, sy’n cyfeirio at ddiffyg yn nifer y cysylltiadau cymdeithasol yn hytrach nag ansawdd y cysylltiadau cymdeithaso, mae arwahanrwydd yn cynyddu’r risg o unigrwydd.

Cyhoeddwyd adroddiad Oedolion hŷn a’r pandemig: mynd i’r afael ag unigrwydd drwy dechnoleg gan CPCC, sy’n pwysleisio’r gwersi sydd wedi eu dysgu wrth ddefnyddio sawl modd o dechnoleg yn ystod y pandemig gan ddarparwyr gofal a chefnogaeth cymdeithasol i daclo unigrwydd mewn sector sydd wedi cael eu heffeithio’n benodol gan unigrwydd.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ei brif awdur Yr Athro Julie Barnett y 13 mehefin yn Sioe Deithiol Ymchwil Gofal Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Bydd yr adroddiad yn cael ei chyflwyno gyda blog gan swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am leoli’r gwaith o fewn cyd-destun Cymunedau Cysylltiedig, y strategaeth unigrwydd cyntaf wnaeth Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi yn 2020.

Casgliadau allweddol o’r ymchwil sy’n cynnwys cyfweliadau gyda darparwyr gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddiwr gwasanaeth oedolion hŷn:

– Gwahaniaeth sylweddol yn allu digidol oedolion hŷn sy’n dangos yr angen i asesu’r parodrwydd technolegol yn gyson a darparu hyfforddiant.

– Mae defnydd o dechnoleg yn gallu fod yn anodd i rai grwpiau o bobl, er enghraifft defnyddiwr gyda dementia neu rai sy’n drwm eu clyw, serch hyn mae’n hefyd yn rhoi cymorth enfawr i eraill fel gofalwyr di-dâl.

– Mae’r gofid sydd gan bobl hŷn o ran sgamiau yn gallu effeithio eu cymhelliant a’u dymuniad i fod yn fwy cymwys wrth ddefnyddio technoleg.

– Y defnydd o ffoniau clyfar fel ‘porth’ i ymestyn ei sgiliau digidol.

– Ni ddylai’r heriau’r gweithlu cael ei anwybyddu wrth gynyddu sgiliau staff a ni ddylai gwirfoddolwyr cael ei anwybyddu chwaith.

Wrth ystyried agweddau iechyd a lles o unigrwydd, mae yna angen i gynyddu gallu digidol o oedolion hŷn, er bod bygythiad COVID-19 wedi lleihau.

Cafwyd yr adroddiad yma ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i strategaeth gyntaf unigrwydd a chymunedau cysylltiedig yn dilyn dechreuad y pandemig. Yn eu blog, mae swyddogion Llywodraeth Cymru Emma Spear a Penny Hall yn esbonio’r pwysigrwydd o’r dystiolaeth yma gan lunwyr polisi a sut fydd y prosiect yn siapio cynllunio polisi o fewn y thema yma yn y dyfodol.

Dywedon nhw: “Mae allbynnau’r ymchwil wedi bod yn ddiddorol i’w darllen. Nid oedd yn syndod gweld bod yn well gan bobl hŷn ddefnyddio’r ffôn na dyfeisiau eraill, ond nid oeddem yn disgwyl y byddai cymaint o bryder gan aelodau’r teulu ynghylch diogelwch dyfeisiau a’r niwed posibl o sgamiau ar y rhyngrwyd. Roedd defnyddwyr gwasanaeth yn pryderu y byddai defnyddio technoleg yn golygu bod sgamwyr yn ‘gallu cael mynediad i’w cyfrifon banc a’r pensiynau roedden nhw wedi gweithio’n galed i’w hennill.’ Mae’n sicr yn rhywbeth y bydd angen inni feddwl yn ofalus amdano wrth ystyried prosiectau a gwasanaethau sy’n gwneud defnydd o dechnoleg ddigidol.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn bwydo allbynnau’r gwaith ymchwil hwn i’n Cymuned Ymarfer ar gyfer Gofal yn y Gymuned. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliadau’r GIG, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol felly mae’n gyfle gwych i rannu canfyddiadau adroddiad WCPP i gynulleidfa ehangach.”