Angen agwedd newydd i ddelio gyda anghydraddoldebau unigrwydd

Mae adolygiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i anghydraddoldebau unigrwydd, a gynhaliwyd gan rai o ysgolheigion blaenllaw’r DU yn y maes, yn amlygu ffactorau cymdeithasol allweddol sy’n arwain at anghydraddoldebau unigrwydd.

Yn arwyddocaol, mae’r gwyriad hwn oddi wrth ystyried unigrwydd fel problem unigol i’w thrin gan ymyriadau fel gwasanaethau cyfeillio neu therapi ymddygiadol yn awgrymu y gallai newidiadau polisi sy’n lleihau anghydraddoldebau wella unigrwydd.

Mae llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a’r DU wedi rhoi pwyslais sylweddol ar fynd i’r afael ag unigrwydd.  Fodd bynnag, i wneud hyn yn effeithiol, mae’n hollbwysig deall anghydraddoldebau yn y profiad o unigrwydd.

Er bod unigrwydd yn rhywbeth y gall unrhyw un ei brofi, mae’n amlwg yn awr nad yw’n effeithio’n gyfartal ar bob aelod o gymdeithas.  Yn yr un modd, mae tystiolaeth ymchwil llethol yn dangos bod rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi unigrwydd nag eraill.

Yr adolygiad

Mae’r adolygiad ar Anghydraddoldebau Unigrwydd, a ysgrifennwyd gan yr Athro Manuela Barreto, yr Athro Pam Qualter a Dr David Doyle, yn crynhoi tystiolaeth o Gymru, y DU ac o weddill y byd ar ba grwpiau mewn cymdeithas sy’n profi unigrwydd anghymesur.  Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau wedi’u hymyleiddio ar sail hil a grwpiau LHDT+, mudwyr, pobl anabl, pobl â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol gwael, gofalwyr, pobl ddi-waith a phobl sy’n byw mewn tlodi.

Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth ryngwladol newydd ar y ffactorau cymdeithasol a strwythurol ehangach a allai gyfrannu at anghydraddoldebau unigrwydd – sy’n helpu i egluro pam yr effeithir yn anghymesur ar grwpiau ymylol.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae unigrwydd yn effeithio mwy ar rai grwpiau mewn cymdeithas nag eraill, yn arbennig y rhai sy’n wynebu mathau lluosog o amddifadedd
  • Gall gwahaniaethau â chymdeithas ddominyddol arwain at fwy o unigrwydd
  • Mae unigrwydd yn aml yn ffaith bywyd i bobl anabl
  • Mae grwpiau ymylol yn fwy tebygol o brofi allgau cymdeithasol, bwlio a gwahaniaethu, sy’n arwain at lesiant seicolegol gwael a mwy o unigrwydd
  • Chwe chyflwr cymdeithasol a nodwyd sy’n cynyddu gwahaniaethau unigrwydd: agweddau cymuned, polisïau cyhoeddus, amrywiaeth demograffeg, yr amgylchedd ffisegol a chymdeithasol ac amddifadedd ardal
  • Mae’n rhaid sicrhau bod lleihau allgau cymdeithasol a gwerthfawrogi gwahaniaeth yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau unigrwydd – yn hytrach na chanolbwyntio ar wendidau unigol

Dywedodd Dr Hannah Durrant, Uwch Gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Mae’r adolygiad arloesol hwn yn dwyn ynghyd – am y tro cyntaf – gorff trawiadol o dystiolaeth ymchwil ryngwladol ar anghydraddoldebau unigrwydd, a’r ffactorau rhyngbersonol a strwythurol sy’n llywio’r rhain. Mae’n ategu ymchwil flaenorol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a ganfu fod y rhai sydd eisoes yn wynebu sawl math o anfantais yn fwyaf tebygol o fod yn unig.

“Mae deall y risg o unigrwydd yn y ffordd hon yn golygu os ydym am fynd i’r afael â hyn, mae angen i ni allu mynd i’r afael â’r rhagfarnau a’r ffactorau strwythurol sy’n creu anghydraddoldebau, a chanolbwyntio ar y rôl y mae pobl, polisïau a gwasanaethau cyhoeddus yn ei chwarae i wneud ein cymdeithasau a chymunedau yn fwy cyfartal.  Y newyddion da yw bod llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a thu hwnt wedi rhoi pwyslais sylweddol ar fynd i’r afael ag unigrwydd.  Mae’r adroddiad hwn yn darparu mewnwelediad o’r hyn y mae angen i ni ei wneud i gyflawni’r nod hwnnw.”

Dywedodd awdur arweiniol yr adroddiad, yr Athro Manuela Barreto o Brifysgol Exeter:

“Mae’r adroddiad hwn yn pwysleisio nad yw unigrwydd wedi’i ddosbarthu’n gyfartal ymhlith y boblogaeth, a’i fod yn aml yn fwy amlwg ymhlith y rhai wedi’u hymyleiddio.  Mae’r patrwm cymdeithasol hwn o unigrwydd yn ei gwneud yn glir bod angen inni fynd y tu hwnt i ganolbwyntio ar ddiffygion unigol er mwyn deall sut mae unigrwydd yn dod i’r amlwg. Yn gysylltiedig, mae angen inni ategu atebion sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â diffygion unigol, fel therapi seicolegol a gwasanaethau cyfeillio, ag ymyriadau sy’n mynd i’r afael â diffygion mewn cymunedau, yn enwedig pan ddaw’n fater o sicrhau bod cymunedau’n wirioneddol gynhwysol.”

Y camau nesaf

Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru’n cynnal digwyddiad trafod yn yr hydref i glywed safbwyntiau a mewnwelediadau ymarferwyr ac arbenigwyr profiad bywyd o unigrwydd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau er mwyn symud y sgwrs i’r lefel nesaf ac awgrymu rhai newidiadau polisi posibl a allai helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau unigrwydd.

CLICIWCH YMA i gofrestru diddordeb i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn ac YMA AM YR ADRODDIAD LLAWN