Adolygiad o dystiolaeth anghydraddoldebau unigrwydd

Mae tystiolaeth gwaith ymchwil yn dangos yn llethol bod unigrwydd yn effeithio ar rai grwpiau mewn cymdeithas yn fwy nag eraill a bod hyn yn arbennig o wir i’r rhai sy’n wynebu mathau lluosog o amddifadedd.

Mae hyn yn awgrymu y gallai unigrwydd fod wedi’i ddosbarthu’n anghyfartal mewn cymdeithas mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ac yn rhyngweithio ag anghydraddoldebau strwythurol ehangach. Ac eto, mae’r prif ddulliau o ymdrin ag unigrwydd mewn ymchwil, polisi ac ymarfer wedi tueddu i ddefnyddio dull unigolyddol – ar draul mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol a strwythurol ehangach a allai fod yn achosi anghydraddoldebau unigrwydd.

Mewn ymateb i hyn, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â rhai o ysgolheigion blaenllaw y DU ar unigrwydd mewn adolygiad mawr o ymchwil gyhoeddedig ar natur ac achosion anghydraddoldebau unigrwydd. Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o’r DU a gweddill y byd ynghylch pa grwpiau mewn cymdeithas sy’n profi unigrwydd anghymesur, gan gynnwys pobl wedi’u hymyleiddio ar sail hil, mudwyr, pobl LHDT+, pobl anabl, pobl â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol gwael, gofalwyr, pobl ddi-waith a phobl sy’n byw mewn tlodi. Am y tro cyntaf, mae’n crynhoi tystiolaeth ryngwladol ar y ffactorau cymdeithasol a strwythurol ehangach a allai fod yn cyfrannu at anghydraddoldebau unigrwydd – sy’n helpu i egluro pam yr effeithir yn anghymesur ar grwpiau ymylol.

Mae’r adolygiad yn dangos y gellir esbonio anghydraddoldebau unigrwydd yn rhannol gan amlygiad uwch grwpiau ymylol i brofiadau o allgau rhyngbersonol, sy’n cyfrannu’n uniongyrchol ar unigrwydd ac yn anuniongyrchol hefyd, drwy effeithio ar lesiant unigol a pherthnasoedd mewn ffyrdd sy’n arwain at amlygrwydd pellach i unigrwydd. Yn ogystal, mae tystiolaeth y gall gwahaniaeth â chymdeithas ddominyddol gyfrannu hefyd at unigrwydd yn absenoldeb allgáu uniongyrchol, er enghraifft drwy wrthdaro mewn normau cymdeithasol sy’n arwain at heriau mewn rhyngweithio cymdeithasol.

Wrth edrych y tu hwnt i’r lefel ryngbersonol, mae’r adolygiad hefyd yn nodi chwe ffactor strwythurol sy’n debygol o gynyddu anghydraddoldebau unigrwydd, oherwydd eu dylanwad anghymesur ar grwpiau ymylol: agweddau cymunedol, polisïau cyhoeddus, amrywiaeth demograffeg, yr amgylchedd ffisegol, yr amgylchedd cymdeithasol ac amddifadedd ardal.

Ceir tystiolaeth anuniongyrchol sylweddol y gellir esbonio anghydraddoldebau unigrwydd gan y ffactorau rhyngbersonol a strwythurol a nodwyd yn yr adolygiad. Mae tystiolaeth uniongyrchol yn fwy cyfyngedig, ond mae’n cynyddu ac mae’n addawol. Mae angen mwy o ymchwil i archwilio’r ffactorau strwythurol sy’n arwain at anghydraddoldebau unigrwydd a sut y gellir mynd i’r afael â’r rhain drwy newidiadau sy’n gwella llesiant cymdeithasol pob aelod mewn cymdeithas. Fel yr esbonia’r adolygiad yn glir, ni ellir mynd i’r afael ag anghydraddoldebau unigrwydd drwy ddulliau unigolyddol mae angen mynd i’r afael â hwy drwy leihau eithrio a gwerthfawrogi gwahaniaeth.