Adeiladu sylfeini democratiaeth iachach yng Nghymru  

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n argymell cyfres gadarn o ffyrdd i wella’r gwaith o fesur iechyd democrataidd yng Nghymru.

Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan y Cwnsler Cyffredinol ac mae’n mynd y tu hwnt i archwilio lefelau cofrestru etholiadol a’r ganran a bleidleisiodd; ac yn ceisio ateb tri chwestiwn i gefnogi ymdrechion i ehangu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd, yn enwedig ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol:

  • Sut beth fyddai democratiaeth iach yng Nghymru?
  • Beth yw’r ffordd orau o gasglu data ac adrodd arno i fesur iechyd democrataidd Cymru?
  • Beth yw’r ffordd orau o fonitro iechyd democrataidd Cymru?

Mae’r adolygiad yn diffinio chwe maen prawf y dylid eu gwreiddio mewn systemau gwleidyddol cenedlaethol a lleol i sicrhau democratiaeth iach: 

  • Ymgysylltiad a chyfranogiad eang gan ddinasyddion
  • Etholiadau teg, a hawliau sifil cryf
  • Dadlau gwleidyddol rhesymegol ac adeiladol
  • Cydraddoldeb gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd
  • Llywodraethu ymatebol
  • Mynediad agored at wybodaeth gywir

Cafodd y gwaith ei gynhyrchu mewn partneriaeth ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Southampton a’i adolygu gan fwrdd crwn o arbenigwyr. Mae’n cael ei gyhoeddi ar adeg o ddirywiad cyffredinol yn yr ymddiriedaeth mewn llywodraeth yn llawer o ddemocratiaethau hynaf y byd a chynnydd mewn poblyddiaeth. I lawer, mae’r amheuaeth iach sy’n cadw golwg ar y llywodraeth wedi troi’n ddadrithiad gyda’r broses ddemocrataidd ei hun.

Mae’n dadansoddi mesuriadau rhyngwladol o iechyd democrataidd, yn cyfeirio at lwyddiannau a methiannau llywodraethau datganoledig ac yn awgrymu ffyrdd y gallai Cymru wella ei phrosesau mesur o ystyried nad yw’n ymddangos ar hyn o bryd mewn unrhyw un o’r prosiectau rhyngwladol sy’n darparu dangosyddion ar iechyd democrataidd. Mae un argymhelliad yn cynnwys y potensial i greu Arsyllfa Ddemocrataidd bwrpasol i Gymru a fyddai’n rhoi dinasyddion Cymru wrth galon y broses asesu.

Dywedodd yr Athro James Downe, Cyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Mae hi’n braf gweld diddordeb Llywodraeth Cymru mewn deall sut beth fyddai democratiaeth iach yng Nghymru a sut mae mesur a monitro iechyd democrataidd, yn enwedig yng nghyd-destun ‘gwrthgilio democrataidd’ ar draws y byd.

“Mae’r adroddiad hwn yn fan cychwyn gwerthfawr i Lywodraeth Cymru ystyried y camau nesaf i greu mesurau mwy cadarn i wella ac i asesu iechyd democrataidd yng Nghymru. Byddai unrhyw un o’r dulliau a awgrymir yn rhoi meincnod i ddeall democratiaeth iach ac yn helpu Cymru i weithio tuag at gryfhau ei phrosesau democrataidd a lleihau’r ‘diffyg democrataidd’.”

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, a fydd yn ein helpu i fesur cynnydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud i wella iechyd democrataidd yng Nghymru.

“Rydyn ni eisoes wedi cyflawni llawer gan gynnwys ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 oed a dinasyddion tramor cymwys yng Nghymru, cyhoeddi fframwaith clir ar gyfer diwygio etholiadol a chyflwyno bil i foderneiddio etholiadau. Mae’r adroddiad hwn yn gam arall tuag at feithrin ymgysylltiad yn ein democratiaeth.”

 

 

 

Tagiau