Diffinio, mesur a monitro iechyd democrataidd yng Nghymru

Yng Nghymru, mae pryderon ynglŷn ag iechyd democratiaeth wedi canolbwyntio ers tro ar y niferoedd isel sy’n bwrw eu pleidlais mewn etholiadau a diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth wleidyddol ymhlith y boblogaeth.

Serch hynny, mae iechyd democratiaeth yn mynd yn ehangach na hynny. A yw dinasyddion yn ymgysylltu â materion gwleidyddol? A oes ganddyn nhw ffynonellau addysg a gwybodaeth i’w galluogi i gymryd safbwyntiau ar faterion gwleidyddol pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau? A yw eu hawliau i drefniadaeth a mynegiant gwleidyddol yn cael eu hamddiffyn? Ac a yw pob dinesydd yn gallu cymryd rhan mewn prosesau democrataidd yn gyfartal, waeth beth fo’u cefndir?

Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru archwilio’r ffordd orau o ddiffinio, mesur a monitro iechyd democratiaeth Cymru. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad mewn prosesau democrataidd cenedlaethol a lleol yng Nghymru, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar dri chwestiwn ymchwil:

  1. Sut olwg allai fod ar ddemocratiaeth iach yng Nghymru?
  2. Beth yw’r ffordd orau o gasglu data ac adrodd ar ddata i fesur iechyd democratiaeth yng Nghymru?
  3. Beth yw’r ffordd orau o fonitro iechyd democratiaeth Cymru?

Rydyn ni’n cyflwyno chwe maen prawf i asesu iechyd democratiaeth Cymru, ar lefel genedlaethol ac ar draws y lefelau gwahanol o lywodraeth leol. Democratiaeth iach yw’r un lle mae’r chwe maen prawf yn cael eu parchu’n dda ar draws pob lefel o’r system wleidyddol yng Nghymru.

Gellir mesur iechyd democratiaeth Cymru mewn sawl ffordd amrywiol. Er bod nifer o brosiectau rhyngwladol yn mesur iechyd democratiaeth y rhan fwyaf o wledydd y byd, gan gynnwys y DU, does dim un o’r rhain yn cynnwys mesurau ar gyfer Cymru.

Mae angen cydnabyddedig am fwy o ystadegau swyddogol a dulliau eraill o fesur i ddeall iechyd democratiaeth yng Nghymru. Er bod rhai mesurau cyfredol a allai helpu i asesu iechyd democratiaeth yng Nghymru, byddai angen datblygu rhai eraill er mwyn creu darlun mwy cyflawn. Mae’r adroddiad yn awgrymu defnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys dadansoddiad arbenigol ac ystadegau swyddogol, yn ogystal ag arbrofi gyda dulliau pwrpasol fel gwyddor dinasyddion neu fodelau iaith.