Sut gall gwasanaethau cyhoeddus helpu i fynd i’r afael â stigma tlodi?

Roedd ein hymchwil diweddar ar brofiad bywyd o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael â stigma tlodi – mae stigma tlodi yn niweidio iechyd meddwl pobl sydd mewn tlodi, ac mae’n gallu ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw neu gymryd rhan yn eu cymunedau.

Mewn ymateb, rydym ar hyn o bryd yn edrych ar sut gallai ymchwil a thystiolaeth helpu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â stigma tlodi yn fwy effeithiol.

Ymunwch â ni am weithdy ar y cyd â’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu ac IPPO i drafod y mater pwysig hwn.

Dydd Gwener 10 Tachwedd 10am – 3pm; Tŷ Pawb, Wrecsam. Bydd cinio a lluniaeth ar gael.

Bydd y digwyddiad yn dod ag arbenigwyr profiad bywyd, ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr at ei gilydd i drafod yr hyn rydym yn ei wybod am stigma tlodi a phwyso a mesur beth mae hyn yn ei olygu i bolisi ac i ymarfer.

Byddwn hefyd yn edrych ar sut gallai Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac eraill gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i gael gafael ar dystiolaeth a’i defnyddio i fynd i’r afael â stigma tlodi yn fwy effeithiol.

Mae’r digwyddiad yma bellach yn llawn ond ysgrifennwch at charlotte.morgan@wcpp.org.uk os oes diddordeb gyda chi yn ein gwaith yn y maes yma