Dyfodol Gwaith yng Nghymru

Lleoliad Ystafelloedd Pwyllgor, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Dyddiad 1 Tachwedd 2017

Ddydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, roedd yn bleser gennym gynnal digwyddiad i lansio ein hadroddiad – Dyfodol Gwaith yng Nghymru.

Noddwyd y digwyddiad gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, a gyflwynodd yr anerchiad agoriadol.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys:

Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) ac awdur ‘Good Work: The Taylor Review of Modern Working Practices’ a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, a siaradodd am raglen yr RSA ar Weithio yn y Dyfodol:

Stijn Broecke, Uwch-economegydd Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol yn y Sefydliad er Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD), a siaradodd am raglen ymchwil ar waith yn y dyfodol yr OECD.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trafodaeth banel lle’r oedd ein harbenigwyr yn canolbwyntio ar feysydd allweddol yn ymwneud â dyfodol gwaith. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Matthew Taylor – ar drefniadaeth, bathodynnau digidol, a chyfrifon dysgu unigol
  • Stijn Broecke – ar ddefnyddio sgiliau a chymathu i swyddi, bathodynnau digidol, a chyfrifon dysgu unigol
  • Mair Bell (WCPP) a Stijn Broecke – ar ddefnyddio sgiliau a chymathu i swyddi
  • Dr Alison Parken (WCPP) –ar wahanu rhywedd galwedigaethol a gweithluoedd y sector cyhoeddus
  • Yr Athro Anne Green (Prifysgol Nottingham) – ar ddilyniant mewn swyddi a dysgu gydol oes
  • Yr Athro Calvin Jones (Ysgol Busnes Caerdydd) – ar y cyd-destun Cymreig, addysg, a datblygu gyrfa

Gallwch hefyd ail fyw’r digwyddiad ar Twitter yma: