Brexit a Chymru – Tir a Môr: Goblygiadau Brexit ym Maes Rheoli Tir Gwledig a Physgodfeydd yng Nghymru

Lleoliad Aberystwyth
Dyddiad 13 Chwefror 2018

Ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2018, gwnaethom gynnal digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth a oedd yn ystyried goblygiadau Brexit ym maes rheoli tir gwledig a physgodfeydd yng Nghymru, gydag ymchwilwyr a rhanddeiliaid blaenllaw ym meysydd amaethyddiaeth a physgota yn rhoi eu barn arbenigol ar oblygiadau Brexit i Gymru.

Yn ystod y bore, clywsom gan Griffin Carpenter, Uwch Ymchwilydd yn y Sefydliad Economeg Newydd, a gyflwynodd ganfyddiadau adroddiad sy’n canolbwyntio ar y sector dal a chyfleoedd pysgota. Cafodd yr adroddiad – Implications of Brexit for Fishing Opportunities in Wales – ei lunio gan y Sefydliad Economeg Newydd ac ABPmer ar y cyd dros Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod ei gyflwyniad, esboniodd Griffin fod tair elfen allweddol o risg neu gyfle yn dylanwadu ar y ddadl ynghylch Brexit a physgodfeydd: mynediad at ddyfroedd; cwotâu pysgota; a marchnadoedd. Mae pwysigrwydd pob un yn dibynnu ar natur a chyfansoddiad y fflyd a’r diwydiant pysgodfeydd, ac yng Nghymru, mae hyn yn wahanol iawn. Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o’r cychod yn fach, ac maent yn glanio pysgod cregyn a rhywogaethau pysgod di-gwota yn bennaf. O’r rhain, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hallforio. Felly, mae gadael y farchnad sengl, yr undeb tollau a chytundebau masnach yr UE â thrydydd gwledydd yn bryder mawr i’r sector pysgod cregyn a dyframaethu yng Nghymru. O’r nifer fach o gychod yng Nghymru sy’n pysgota rhywogaethau â chwota ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn eu glanio’n rhyngwladol. Er bod y diwydiant pysgota yng Nghymru yn gymharol fach yn economaidd ac yn wleidyddol, gallai Brexit dyfu’r diwydiant yn sylweddol a chynnig cyfle i ailystyried haenau gwahanol o’r broses benderfynu ac opsiynau i ddiwygio polisi pysgodfeydd er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol gwell.

Ar ôl y cyflwyniad, cafwyd panel o ymchwilwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant wedi’i gadeirio gan Michel Kaiser, Athro Bioleg Forol ym Mhrifysgol Bangor. Gwnaeth Griffin; James Wilson, ffermwr cregyn gleision a Chyfarwyddwr Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai; Jim Evans, Cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru; a Graham Rees, Pennaeth Pysgodfeydd yn Llywodraeth Cymru ymuno ag ef.

Trafododd y panel sut mae’r data a’r ymchwil wyddonol sydd eu hangen i ddeall a rheoli pysgodfeydd yn effeithiol yng Nghymru yn cyfateb i ddata ac ymchwil wyddonol gwledydd eraill sydd â sectorau llawer mwy gweithredol a chynhyrchiol e.e. yr Alban. Nid yw’r diwydiant o reidrwydd yn dwyn y costau, felly mae’n ddibynnol yn bennaf ar allu ac adnoddau cyfyngedig Llywodraeth Cymru. Cafodd buddsoddi mewn ymchwil a datblygu ei ystyried yn flaenoriaeth. Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch y ffordd y gall technoleg wella dulliau o olrhain a gorfodi yn nyfroedd tiriogaethol Cymru.

Roedd y cwestiynau a’r sylwadau o’r llawr yn amrywiol ac yn fewnweledol. Roedd diddordeb yn y ffordd y gallai ehangu’r sector gefnogi cymunedau lleol drwy gynnig cyfleoedd gyrfaoedd a datblygu cadwyni cyflenwi lleol. Hefyd, nodwyd bod gweithio tuag at bysgota ar lefel sy’n sicrhau’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf yn fuddiol i iechyd hirdymor stociau pysgod a chynaliadwyedd pysgota – sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.

Ar ôl cinio, clywsom gan Janet Dwyer, Athro Polisi Gwledig a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a’r Gymuned ym Mhrifysgol Sir Gaerloyw. Cyflwynodd Janet ganfyddiadau ei hadroddiad i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sef The Implications of Brexit for Agriculture, Rural Areas and Land Use in Wales.

Trafododd Janet y sefyllfa bresennol o ran amaethyddiaeth a’r defnydd o dir gwledig yng Nghymru, gan nodi bod busnesau yng Nghymru y tu allan i’r prif gytrefi yn gyffredinol yn fach iawn ac y gall y gwasanaethau sydd ar gael fod yn wael iawn. Mae incwm cyfartalog ffermydd yng Nghymru yn wael ac mae’r elw economaidd o gynhyrchion fferm yn isel iawn.

Gallwn ddisgwyl llai o arian cyhoeddus ar gyfer amaethyddiaeth pan fyddwn wedi gadael yr UE, ac yn dilyn cyfnod pontio tebygol o dair blynedd; h.y. ar ôl 2022. Mae ffermydd pori da byw yn dibynnu ar arian gan yr UE. Cig defaid sy’n cael ei gynhyrchu gan amlaf, ac mae’r rhan fwyaf ohono yn cael ei allforio i’r UE. Mae cig eidion a llaeth yn cael ei fwyta a’i yfed yn fwy yn y DU. Gallai ffermwyr defaid a chig eidion fod dan anfantais yn benodol ar ôl Brexit. Mae’n debygol y bydd hyfywedd economaidd y broses o gynhyrchu defaid yn dirywio. Efallai mai ffermydd llaeth, garddwriaethol, cymysg ac eraill fydd yn y sefyllfa orau i elwa o’r newidiadau ar ôl Brexit. Mae twristiaeth a hamdden yn bwysig hefyd, ac mae gan y maes coedwigaeth botensial pe bai prisiau’n codi. Mae’n debygol o effeithio’n fwy negyddol ar y gogledd a’r gorllewin na’r de a’r dwyrain.

Dylid rhoi blaenoriaeth i addasu wrth reoli amaethyddiaeth a defnyddio tir gwledig yng Nghymru yn y dyfodol, drwy annog partneriaethau rhwng y llywodraeth a sectorau allweddol a sicrhau fframwaith cymorth cynaliadwy yn y dyfodol. Gorau po gyntaf y bydd helaethrwydd a hygyrchedd adnoddau yn hysbys.

Ar ôl cyflwyniad Janet, cafwyd panel amaethyddiaeth arbenigol a gadeiriwyd gan Mike Woods, Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Gwnaeth Janet; John Davies, Llywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru; Glenda Thomas, Cyfarwyddwr y Grwpiau Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt; a Peter Midmore, Athro Economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ymuno ag ef.

Trafododd aelodau’r panel y prif flaenoriaethau ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn eu barn nhw. Ceisiodd Peter Midmore roi’r drafodaeth yng nghyd-destun newidiadau allweddol eraill mewn cyllid gwladwriaethol. Dadleuodd fod unrhyw newidiadau ym maes amaethyddiaeth yn annhebygol o wneud iawn am newidiadau gwladwriaethol ehangach megis y broses o rewi cyflogau yn y sector cyhoeddus. Anghytunodd John Davies â’r ddadl hon, gan ddadlau bod ffermio’n bwysig a’i fod yn gwneud cyfraniad anferth at economi Cymru. Tynnodd Glenda Thomas sylw at bwysigrwydd ystyriaethau amgylcheddol. Pwy arall fydd yn parchu’r blaenoriaethau i reoli’r tir os nad rheolwyr y tir?

Roedd digonedd o gwestiynau o’r llawr, gan arwain at drafod a ddylid rhoi’r flaenoriaeth i gysoni rheoliadau ac arian ledled y DU neu annog lleoliaeth a gwahaniaethu, goblygiadau Brexit i bryderon ynghylch yr amgylchedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol a rôl amaethyddiaeth mewn perthynas â chymunedau a gwasanaethau gwledig.

Cafodd y digwyddiad ei groesawu gan y cynrychiolwyr a’r siaradwyr, a gwnaeth annog cryn dipyn o drafodaeth a dadl ddiddorol. Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad, ac i Brifysgol Aberystwyth am ein croesawu.