Tystiolaeth a Chymru Wrth-hiliol

Ar 7 Mehefin, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu newydd er mwyn cyflawni Cymru Wrth-Hiliol erbyn 2030. Bydd y gwaith yn cynnwys nodi a dileu’r systemau, strwythurau a phrosesau sy’n cyfrannu at ganlyniadau anghyfartal  i bobl o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol.  Disgrifiwyd y lansiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fel ‘moment randdeiliaid’ bwysig ar y ‘daith’ o ‘fynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol yng Nghymru’.

Caiff Cynllun Gweithredu ei ystyried yn gyflawniad pwysig, yn deillio o broses gymhleth gyda rhanddeiliaid niferus, llawer ohonynt â phrofiad uniongyrchol o natur ac effaith ddwys hiliaeth.   Er eu bod ar adegau o reidrwydd yn ‘gynghrair anesmwyth’, unwyd pawb oedd yn gweithio ar y Cynllun gan ymrwymiad i gyflwyno newid sylweddol.  Gyda’i gilydd, fe gyd-gynhyrchwyd fframwaith ‘i bawb gydio ynddo’ a’r nod yw dal pawb yn atebol.

Mae lansio’r Cynllun yn wir yn ‘foment’ i randdeiliaid. Mae hefyd yn ‘foment’ i’r WCPP fyfyrio, sy’n cynnig cyfle i ni ystyried rôl tystiolaeth – y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol – mewn perthynas â Chymru Wrth-hiliol.

Yn y lansiad, canmolwyd y WCPP am ei rôl yn llywio’r Cynllun gyda synthesis tystiolaeth gadarn a chyflwyno cyngor arbenigol gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt.   Buom yn gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu adroddiadau a briffiadau ar wella cydraddoldeb hiliol ar draws meysydd polisi a nodwyd fel rhai sydd â’r potensial mwyaf i greu effaith gan gynnwys Addysg, Troseddu a Chyfiawnder, Tai a Llety, Cyflogaeth ac Incwm ac Arweinyddiaeth a Chynrychiolaeth.  I’r Athro Emmanuel Ogbonna, Cyd-gadeirydd Grŵp Llywio REAP, roedd y gwaith hwn a’r dystiolaeth yn sicrhau ‘angor ymchwil’ pwysig i’r Cynllun:

‘Gwnaeth yr adroddiadau a ddarparodd yr WCPP ar y meysydd pryder sylweddol helpu i ynysu’r problemau allweddol yn elfennau unigol y cynllun, y goblygiadau croestoriadol a’r camau gweithredu amgen posibl y gellid eu harchwilio.’

Yn allweddol, fel y dywed yr Athro Ogbonna, ategwyd y dystiolaeth ymchwil a’r arbenigedd a gafwyd gennym gan fath allweddol arall o dystiolaeth – sef profiad byw aelodau o gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.

Prif nod y Cynllun yw cau’r ‘bwlch gweithredu’ wrth fynd i’r afael â hiliaeth a gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.  Yn ei sylwebaeth i WCPP, mae Ronald Roberts yn tynnu ar dystiolaeth i ddadlau dros ddull gwrth-hiliol yn hytrach na chanolbwyntio ar ‘gyfle cyfartal’. Aiff yn ei flaen i ystyried yr heriau ynghylch gweithredu, gan gynnwys yr angen am ‘fesurau da o gynnydd’, metrigau sy’n ystyrlon, yn ystwyth ac yn berthnasol. Rydym ni’n falch fod ymdrechion parhaus Grŵp Llywio REAP, ei bartneriaid, a rhwydweithiau, wedi cynnwys gwaith i ymdrin â’r materion hyn, gan drawsnewid y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft a chreu’r ‘Cymru Wrth-Hiliol’ sydd newydd ei lansio.

Bydd yr ymrwymiad i wrth-hiliaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a phleidiau eraill yn bwydo i mewn ac yn cael eu hatgyfnerthu gan gyrff a gwasanaethau cyhoeddus sy’n datblygu eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth ‘nythol’ eu hunain.  Yn yr un modd, byddwn yn myfyrio ar sut y gall y WCPP, fel sefydliad annibynnol sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael i lunwyr polisi, gyfrannu at yr ymdrech hon. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r systemau, strwythurau a phrosesau sy’n cynnal ac yn atgyfnerthu hiliaeth ar draws y meysydd polisi lluosog ydym ni’n gweithio arnynt gan gynnwys tlodi, addysg, sgiliau, cyflogaeth, a thai, sydd oll yn croestorri â hil.  Rydym ni hefyd yn gobeithio gallu defnyddio ein hymchwil ar weithredu i helpu llunwyr polisi i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn gwireddu ei ddyheadau o ran mynd i’r afael â hiliaeth yng Nghymru.

Mewn iaith sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n addas i’r dirwedd gyfreithiol a pholisi unigryw yng Nghymru, caiff hiliaeth ei ddisgrifio gan yr Athro Ogbonna fel ‘etifeddiaeth wrthnysig’, rhywbeth sy’n mwtanu dros amser ac a all fod yn ‘bla ar genedlaethau’r dyfodol.’  Wrth symud ymlaen, ac yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae.