Taclo tlodi a iechyd meddwl ar y cyd: dull gweithredu amlasiantaeth

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi argymell pedwar maes ffocws ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar dlodi ac allgáu cymdeithasol. Mae un o’r rhain yn ymwneud â llwyth meddyliol a iechyd meddwl:

“Mynd i’r afael â’r baich emosiynol a seicolegol sy’n cael ei gario gan bobl sy’n byw mewn tlodi ac allgáu cymdeithasol trwy daclo stigma, (ail) ddyneiddio ‘y system’ a thrin pobl â’r parch a’r urddas y maent yn eu haeddu.”

Yn Mind, rydym yn falch o weld iechyd meddwl yn cael ei gydnabod fel elfen ganolog o unrhyw strategaeth gwrth-dlodi. Mae cysylltiad yn aml rhwng arian a iechyd meddwl. Gall iechyd meddwl gwael olygu bod ennill a rheoli arian yn fwy anodd. A gall poeni am arian waethygu eich iechyd meddwl. Gall ddechrau teimlo fel cylch dieflig. Tlodi yw un o’n tair blaenoriaeth datblygu strategol yn Mind. Rydym am atal pobl â phroblemau iechyd meddwl rhag cael eu caethiwo mewn tlodi.

Gwrandewch ar ein Pennaeth Gwella Cydraddoldeb, Marcel Vige, yn trafod y cysylltiad rhwng tlodi a iechyd meddwl ar bodlediad WCPP, PEP Talk.

Y llynedd fe wnaethom ni ddarn o waith ymchwil gyda phobl sydd wedi byw neu sydd yn byw mewn tlodi. Fe wnaethom ni ofyn iddyn nhw am eu profiadau o gymorth iechyd meddwl a sut gallen ni eu helpu orau yn y dyfodol. Dywedodd dros hanner y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwasanaeth cefnogi sy’n cyfuno cymorth iechyd meddwl a chymorth ariannol. Ategir hyn gan adroddiad diweddar WCPP a ganfu y gall gwasanaethau aml-asiantaeth arddull ‘siop un stop’ yn y gymuned helpu i fynd i’r afael â’r ystod o anghenion a gwendidau rhyng-gysylltiedig y mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn eu profi. Mae gwasanaethau o’r fath yn arbennig o effeithiol pan nad ydynt yn creu stigma ac os ydynt yn defnyddio perthnasoedd lleol y gellir ymddiried ynddynt.

Rydym wedi partneru gyda Chyngor ar Bopeth ac Ymddiriedolaeth Trussell i ddarparu Help trwy Galedi. Drwy’r rhaglen hon, ein nod yw mynd i’r afael â thlodi a iechyd meddwl gwael drwy gynnig cyngor a gwasanaethau cydgysylltiedig ac ymgyrchu gyda’n gilydd i sicrhau system gymorth sy’n decach.

Gyda’n gilydd, rydym yn cyflawni tri phrosiect allweddol fel rhan o Help trwy Galedi:

  1. Darperir y llinell gymorth Help trwy Galedi gan Gyngor ar Bopeth ac Ymddiriedolaeth Trussell. Mae’r llinell gymorth ddi-dâl yn cynnig cymorth cyfannol, personol i bobl nad oes ganddynt ddigon o arian ar gyfer hanfodion. Mae eu cynghorwyr llinell gymorth yn siarad â phobl am y rhesymau pam nad oes ganddynt ddigon o arian ac yn eu helpu i gael mynediad at daliadau nawdd cymdeithasol y gallant eu hawlio. Maent hefyd yn gallu rhoi pobl mewn cysylltiad ag ystod ehangach o wasanaethau a chymorth, megis atgyfeiriad i’w Cyngor ar Bopeth lleol i gael cyngor ar ddyledion. Gall cynghorwyr drosglwyddo pobl yn uniongyrchol i Linell Wybodaeth Mind os byddant yn nodi angen iechyd meddwl, a gallant hefyd wneud atgyfeiriad i fanc bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell i gael bwyd ar frys os bydd angen.
  2. Mae Help trwy Galedi yn lleol yn brosiect rhwng Cyngor ar Bopeth, Mind ac Ymddiriedolaeth Trussell i helpu i hwyluso partneriaethau lleol. Y nod yw darparu cymorth cyfannol i bobl sy’n wynebu problemau ariannol a iechyd meddwl. Disgwylir i’r grantiau ariannu chwe phrosiect partneriaeth rhwng Cyngor ar Bopeth lleol, Mind yn lleol a banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell. Bydd o leiaf un prosiect partneriaeth lleol yng Nghymru.
  3. ​​​​​​​Defnyddio ein llais a rennir i ymgyrchu dros system gymorth fwy cyfiawn i bobl sy’n wynebu tlodi a phroblemau iechyd meddwl. Bydd hyn yn cael ei lywio gan fewnwelediad a gasglwyd o’r ddau brosiect arall.

Mae Cyngor ar Bopeth ac Ymddiriedolaeth Trussell wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llinell gymorth Help trwy Galedi ers mis Mawrth 2020. Fe wnaethon ni ddechrau treialu trosglwyddiadau uniongyrchol o’r llinell gymorth i Linell Wybodaeth Mind ym mis Medi 2021 ac rydym wedi dysgu llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi gwella ein hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr llinell gymorth Help trwy Galedi fel eu bod yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad am iechyd meddwl ac egluro sut gallai Llinell Wybodaeth Mind helpu pobl. Rydym hefyd wedi gwrando ar adborth nad yw pobl weithiau am gael eu trosglwyddo i Linell Wybodaeth Mind ar unwaith, hyd yn oed os ydynt yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol. Gallai hyn fod oherwydd bod angen seibiant arnyn nhw neu, os ydynt wedi derbyn taleb banc bwyd, efallai y bydd angen iddynt fynd i gasglu parsel bwyd. I roi sylw i hyn, byddwn yn treialu gwasanaeth galw’n ôl fel bod modd i gynghorwyr Mind ffonio pobl yn ôl ar amser sy’n gyfleus iddynt i drafod eu hiechyd meddwl.

Yn ogystal â rhai o’r gwersi gweithredol hyn, rydym wedi darganfod llawer am fanteision ehangach gweithio mewn partneriaeth. Mae pob partner yn dod â gwybodaeth, profiadau ac ymagweddau gwahanol. Gallai hyn gael ei weld fel her, ond mewn gwirionedd mae’n cryfhau’r hyn y gallwn ei gyflawni, gan fod modd i ni ddysgu cymaint oddi wrth ein gilydd. Er enghraifft, mae Cyngor ar Bopeth yn dod â gwybodaeth fanwl am y system nawdd cymdeithasol a sut mae’n gweithio ar bapur a thu ôl i’r llenni. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi rhannu eu canllawiau iaith ar gyfer siarad am dlodi, nawdd cymdeithasol, a’r defnydd o fanciau bwyd, sy’n ein helpu i siarad am ein gwaith mewn ffordd nad yw’n stigmateiddio. O ran Mind, rydym yn falch iawn o’r ffordd yr ydym yn rhoi pobl â phrofiad bywyd yn y canol yn ein prosesau a’n penderfyniadau. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi gallu dod ag ef i’r rhaglen, trwy sefydlu panel profiad bywyd i’n harwain. Mae llawer o agweddau ar y dull hwn – megis cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi a mynd i’r afael â’r ‘llwyth meddyliol’ y mae tlodi yn ei roi ar bobl – yn unol â chanfyddiadau ymchwil WCPP am ‘beth sy’n gweithio’. Gobeithiwn weld sefydliadau eraill yn gweithredu ar ganfyddiadau WCPP ac yn rhannu eu canlyniadau.