Adolygiad rhyngwladol o bolisïau a rhaglenni gwrth-dlodi effeithiol

Yn rhan o adolygiad y ganolfan hon o dlodi ac allgáu cymdeithasol, gofynnon ni i’r Centre for Analysis of Social Exclusion (CASE) yn Llundain adolygu’r dystiolaeth ryngwladol o bolisïau a rhaglenni addawol ar gyfer lleddfu tlodi ac allgáu cymdeithasol mewn 12 maes allweddol. Dyma’r 12 maes: poblogrwydd trosglwyddo arian; dyledion cartrefi; tlodi ynghylch tanwydd; ansicrwydd o ran bwyd; allgáu digidol; tai fforddiadwy ar gael; anfantais ynghylch cludiant; addysg a gofal y blynyddoedd cynnar; gwasanaethau i’r ifainc; dyrchafu yn y gwaith; addysg a medrau ychwanegol; ansawdd cymdogaethau.

Dyma’r cwestiynau a ofynnwyd ym mhob maes:

  • Pa bolisïau, rhaglenni a chamau rhyngwladol sy’n effeithiol ynghylch lleddfu tlodi?
  • Pa nodweddion/safonau sy’n bwysig neu’n gyffredin i’r gwahanol ddulliau hynny?

Mae’r ddau gwestiwn uchod wedi’u trafod ym mhob adolygiad trwy roi’r canlynol:

  • Cyd-destun Cymru ym mhob maes a phrif fentrau Llywodraeth Cymru.
  • Gwybodaeth fanwl am berthynas y maes o dan sylw â thlodi ac allgáu cymdeithasol.
  • Crynodeb o’r dystiolaeth ynghylch profiad a allai helpu i ddeall effaith polisïau ar bobl ac ymateb y bobl i bolisïau o’r fath.
  • Trosolwg o’r dystiolaeth ryngwladol ynghylch effeithiolrwydd polisïau (gan gynnwys astudiaethau achos).
  • Meini tramgwydd a manteision ynghylch rhoi polisïau ar waith.

Yn ogystal ag adolygu 12 maes, mae adroddiad trosolwg wedi’i lunio i grynhoi prif dystiolaeth pob adolygiad unigol, nodi cysylltiadau rhwng yr amryw feysydd a chloriannu’r holl dystiolaeth i roi argymhellion neu bennu camau ym mhob un o’r 12 maes.