Sut olwg sydd ar System Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru?

Mae ein blog blaenorol, A yw gofal iechyd yng Nghymru wir mor wahanol â hynny?, yn amlinellu rhai o brif nodweddion system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, a’r prif wahaniaethau o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Fel systemau gofal iechyd datblygedig eraill, mae strwythur y GIG yng Nghymru wedi datblygu ac esblygu mewn ymateb i anghenion y boblogaeth a phwysau gwleidyddol, i greu system gymhleth ac aml haenog. Er mwyn deall yn well sut mae’r system yn cael ei llywodraethu a’r cymhellion sy’n gyrru ymddygiad, aethon ni ati i fapio’r sefydliadau sy’n cefnogi swyddogaethau craidd a llif atebolrwydd ac arian. Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg byr o strwythur y system, yn ogystal â’n myfyrdodau ar yr heriau o geisio datblygu map o’r system

Roedd gwaith blaenorol i nodi blaenoriaethau a heriau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn tynnu sylw at y strwythurau llywodraethu a’r cymhellion sy’n sbarduno ymddygiadau yn y system fel pryder mawr. Mae’r ymarfer hwn yn fan cychwyn o ran deall sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud o fewn y system ac mae WCPP wrthi’n ymgysylltu â’r sector i gynllunio ein camau nesaf yn y maes hwn.

Cliciwch i weld yn fwy manwl

 

Sut mae’r GIG yng Nghymru wedi ei strwythuro?

Mae nifer y sefydliadau a natur esblygol y system yn ei gwneud hi’n anodd cynhyrchu map ddiffiniol ohoni. Ond yn fras, mae’r system wedi’i ffurfio o dair haen o sefydliadau, gyda’r cyntaf yn cynnwys Llywodraeth Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol. Islaw hynny saif amrywiaeth o gyrff gwahanol ar lefel Cymru gyfan a rhanbarthol: mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, tair Ymddiriedolaeth GIG Cymru gyfan a’u sefydliadau cysylltiedig, ynghyd â’r ddau awdurdod iechyd arbennig. Mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau mewn ysbytai a gofal cymunedol i’r boblogaeth o fewn eu ffiniau. Maen nhw hefyd yn comisiynu amrywiaeth o ddarparwyr gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr, sy’n ffurfio’r drydedd lefel ochr yn ochr â’r darparwyr gofal cymdeithasol a gomisiynir gan awdurdodau lleol a/neu fyrddau iechyd lleol. Caiff Byrddau Iechyd Lleol eu hariannu drwy ddyraniad cyllid craidd penodol gan Lywodraeth Cymru, sy’n seiliedig i raddau helaeth ar faint a chyfansoddiad y boblogaeth leol.

Mae tair Ymddiriedolaeth y GIG a’r ddau awdurdod iechyd arbennig yn eistedd tua’r un lefel â’r byrddau iechyd lleol, ond mae ganddynt gylch gwaith ledled Cymru. Mae Ymddiriedolaethau’r GIG yn bennaf gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ambiwlansys a gofal canser ledled Cymru, tra bod yr awdurdodau iechyd arbennig yn cefnogi gweddill y system gofal iechyd mewn perthynas â chynllunio’r gweithlu (Addysg a Gwella Iechyd Cymru neu AaGIC) yn ogystal â data a thechnoleg (Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu DHCW). Fel y Byrddau Iechyd Lleol, maent yn atebol i Lywodraeth Cymru, ac yn cynhyrchu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig i ddangos sut y bydd gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u darparu i ddiwallu anghenion y poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu, a gwella’r canlyniadau hynny. Mae’r cynlluniau hyn fel arfer yn cwmpasu cyfnod o dair blynedd, ond maen nhw wedi bod yn fwy hyblyg yn ddiweddar mewn ymateb i’r pandemig byd-eang.

Caiff gwasanaethau gofal iechyd eu rheoleiddio a’u harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sydd hefyd yn ffurfio traean o’r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd teiran (tripartite), ochr yn ochr ag Archwilio Cymru, y sefydliad allanol sy’n gyfrifol am archwilio cyrff y GIG, a Llywodraeth Cymru, sy’n rheoli perfformiad y GIG o ddydd i ddydd trwy amrywiaeth o ddangosyddion perfformiad. Dyma un enghraifft o’r rôl gref a chanolog Llywodraeth Cymru o fewn y system. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn canoli’r cyfrifoldeb sy’n ymwneud â strategaeth a blaenoriaethau yn ogystal â dosbarthu adnoddau. At hynny, mae’r cyhoeddiad diweddar i nodi y bydd Gweithrediaeth y GIG yn uwch dîm sy’n eistedd o fewn Llywodraeth Cymru, yn hytrach na chorff ar wahân, yn ailddatgan ymrwymiad i’r ffordd ganolog hon o weithio. Mae ein blog ar ffurfio Gweithrediaeth y GIG yn trafod hyn yn fanylach.

 

Heriau o ran mapio’r system

Mae mapio’r system wedi bod yn ymarfer heriol am ddau brif reswm. Yn gyntaf, mae hi’n cynnwys llu o wahanol sefydliadau o wahanol feintiau, ac mae gormod i’w henwi a’u lleoli o fewn y strwythurau cyffredinol sy’n sail i’r system. Enghraifft nodedig o hyn yw’r gwahanol dimau a phwyllgorau a gynrychiolir o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr Uned Gyflawni a’r Cyd-dîm Gweithredol, ymhlith eraill. Mae pob un o’r rhain yn ysgwyddo ei gyfrifoldebau a’i atebolrwydd ei hun o fewn y system, ac nid yw’n glir faint o gydlynu sydd rhyngddynt. Dyma hefyd lle bydd Gweithrediaeth newydd y GIG yn eistedd o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol, gan gymhlethu pethau ymhellach.

Yn ail, mae sefydliadau o fewn y system wedi dod i’r amlwg ac wedi esblygu yn eu ffordd eu hunain dros amser, gan ei gwneud hi’n anodd categoreiddio a grwpio’r rhannau sy’n symud yn barhaus. Er enghraifft, mae gan Gymru dair Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau ledled y wlad: Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Eto, er y cyfeirir at y tri sefydliad fel Ymddiriedolaethau GIG, mae gan bob un ohonynt wahanol strwythurau o ran cyllido ac atebolrwydd sy’n cael eu pennu gan eu swyddogaethau a’u gwreiddiau unigol. Mae gan y ddau Awdurdod Iechyd Arbennig (Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru) gylch gwaith Cymru gyfan hefyd, ond mae’r ddau wedi esblygu’n wahanol dros amser ac yn fwy diweddar, wedi ymgymryd â swyddogaeth gwbl wahanol.