A yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithrediaeth GIG Cymru yn gyfle wedi’i golli?

Gyda chymaint o’r ffocws sydd ar y GIG yn ymwneud ag amseroedd aros, hawdd iawn oedd colli’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am Weithrediaeth GIG Cymru.

Gall hyn ymddangos fel tacteg biwrocrataidd i dynnu sylw oddi ar faterion pwysicach, ond mae sefydlu Gweithrediaeth GIG yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried ers tro fel diwygiad hanfodol i’r broses o lywodraethu’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyn belled yn ôl â 2016, fe wnaeth yr OECD alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ‘llaw ganolog gryfach ar y llyw’ i ysgogi gwelliant ystyrlon yn y system iechyd a gofal.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd hyn ei adleisio yn yr Adolygiad Seneddol, a aeth ymhellach wrth ddisgrifio’r hyn oedd ei angen i gyflawni ‘cynnydd ystyrlon’:

cyfuniad ehangach a mwy creadigol o gefnogaeth genedlaethol; cymhellion; meincnodi (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol); rheoleiddio; atebolrwydd a thryloywder

Roedd yr Adolygiad yn dadlau dros swyddogaeth weithredol genedlaethol GIG Cymru gyda’r gallu i ddatblygu a chyflawni’r dull newydd hwn, sy’n cael ei ystyried yn hanfodol i gyflawni’r newid angenrheidiol ar draws y system.

Ac fel mae ein hymdrechion i fapio’r trefniadau atebolrwydd a chyllid yn ei ddangos, mae bendant lle i symleiddio’r trefniadau presennol.

Felly, beth ydym ni’n ei wybod erbyn hyn am gynlluniau Llywodraeth Cymru?

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Seneddol oedd Cymru Iachach – cynllun hirdymor ar gyfer trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol. Yn hyn o beth, cytunodd y Llywodraeth ag argymhelliad yr Adolygiad ynghylch yr angen i ddiwygio trefniadau llywodraethu’r system, gan ymrwymo i sefydlu Gweithrediaeth GIG newydd erbyn diwedd 2018.

Cafodd y cynlluniau hyn eu hoedi yn 2020 wrth i’r system ymateb i’r pandemig. Ond cyhoeddodd y diweddariad diweddar fod Gweithrediaeth newydd y GIG bellach yn cael ei sefydlu, gan roi ambell gliw o ran y rôl y bydd yn ei chwarae.

Roedd cynlluniau i sefydlu sefydliad newydd – Awdurdod Iechyd Arbennig newydd – ond cyhoeddodd y Gweinidog yn lle hynny y byddai’r Weithrediaeth yn “fodel hybrid” gydag “uwch-dîm bach, cryfach” yn Llywodraeth Cymru, a byddai’n dwyn ynghyd swyddogaethau presennol ar draws y GIG.

Mae’n ymddangos y bydd y tîm bach hwn yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda thimau presennol – yn arbennig y rheiny sydd â’u ffocws ar wella, perfformiad a chynllunio ar lefel genedlaethol – gyda rhai ohonynt yn symud i’r Weithrediaeth a rhai yn aros yn eu hunfan, ond yn cael eu cyfarwyddo gan y tîm yn Llywodraeth Cymru.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r agenda drawsnewid? Ac a fydd hyn yn bodloni’r angen hirdymor am ddiwygio’r broses lywodraethu? Bydd llawer yn dibynnu ar y manylion, sydd eto i’w pennu. Ond, ar y cyswllt cyntaf, nid yw’r “model hybrid” yn gwneud dim i symleiddio’r system. Ac mae wedi siomi’r rhai a oedd yn gobeithio am fwy o wahaniaeth rhwng polisi a throsolwg a rheolaeth strategol.

Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn parhau â’r potensial i (ail)ddylunio a gweithredu system gydlynol o oruchwylio, herio a chefnogi sy’n ysgogi newid ar gyflymder a graddfa. Ond rhaid aros i weld a fydd gan y Weithrediaeth newydd y gallu a’r safle o fewn y system i allu mynd i’r afael â chymhlethdodau a gwleidyddiaeth ceisio cyflawni hyn.