Ydy gofal iechyd yng Nghymru yn wir mor wahanol â hynny?

Pryd bynnag mae cyfryngau’r Deyrnas Unedig yn trafod y GIG, yn amlach na pheidio maen nhw’n trafod y GIG yn Lloegr, yn hytrach nag ym mhob un o’r pedair gwlad, er mai anaml y mae’n egluro’r gwahaniaeth hwnnw.

Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynlluniau i newid sut mae’r GIG yn cael ei lywodraethu, roeddem ni’n tybio y gallai fod yn amserol myfyrio ar y gwahaniaethau gwirioneddol yn system iechyd Cymru, a beth gallai’r newidiadau arfaethedig ei olygu.

Pwy sy’n rheoli gwasanaethau’r GIG yng Nghymru?

Ers 2009, mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi cael eu rheoli a’u darparu gan saith bwrdd iechyd lleol (LHBs). Mae’r Byrddau hyn yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau yn eu hardaloedd, ac yn gyfrifol am iechyd eu poblogaeth leol.

Mae hynny’n golygu eu bod nhw’n darparu neu’n comisiynu’r ystod lawn o wasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau mewn ysbytai, iechyd meddwl a chymunedol; a’u bod yn contractio Meddygon Teulu, fferyllwyr, optegwyr a deintyddion i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol.

Yn wahanol i’r chwech arall, nid oes gan Fwrdd Iechyd Powys Ysbyty Cyffredinol mawr i’r Dosbarth.  O ganlyniad, mae’n comisiynu llawer o’i wasanaethau ysbyty o Loegr, ar draws y ffin, ac mae’n ymwneud yn llawer llai â darparu gofal ysbyty eilaidd yn uniongyrchol.

Mae’r strwythur hwn yn cyferbynnu â mannau eraill yn y Deyrnas Unedig; yn Lloegr fe wnaeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 gynnal y rhaniad rhwng comisiynu (sy’n cael ei arwain yn lleol gan 191 o Grwpiau Comisiynu Clinigol  ac yn genedlaethol gan NHS England) a’r ddarpariaeth gwasanaeth a arweinir yn bennaf gan fwy na 200 o Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Sylfaen GIG.  Mae gan yr Alban system o fyrddau iechyd integredig tebyg i Gymru; yng Ngogledd Iwerddon mae un adran o’r llywodraeth yn goruchwylio iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’r Weithrediaeth Gwasanaethau Iechyd yn gyfrifol am wasanaeth iechyd sy’n cael ei ddarparu gan gyfuniad o ddarparwyr cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

 

Byrddau Iechyd Lleol yn GIG Cymru o 1 Ebrill 2019

 

Ochr yn ochr â’r Byrddau Iechyd Lleol, mae tri Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru, pob un ohonynt â chylch gorchwyl Cymru gyfan:

Ar ben hynny mae amrywiaeth o gyrff cenedlaethol sy’n gyfrifol am agweddau arTG a rhai ‘gwasanaethau a rennir’ (e.e. cyflogres, ystadau, cyfreithiol a chaffael). Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn goruchwylio cynllunio, addysg, hyfforddiant a datblygiad gweithlu iechyd Cymru.  Mae Uned Ddarparu GIG Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoli perfformiad ar draws GIG Cymru ac mae  Gwella 1000 o Fywydau yn cefnogi gwelliannau i iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Rôl Llywodraeth Cymru

Ar hyn o bryd Prif Weithredwr GIG Cymru sy’n gyfrifol am arwain a rheoli’n strategol holl wasanaethau GIG Cymru, ond mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, bydd hynny’n newid yn y dyfodol agos gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n ddiweddar i sefydlu Gweithrediaeth GIG newydd, gwahanol i Gymru.  Mae hyn yn ymateb i’r argymhelliad yn Adolygiad Seneddol 2018 o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, lle galwyd am ‘ganolfan weithredol gryfach’, a ‘gwahanu mwy amlwg rhwng swyddogaeth gweithrediaeth genedlaethol GIG Cymru, a’r swyddogaeth gwasanaeth sifil cenedlaethol.  Roedd hyn yn ei dro yn adleisio canfyddiadau’r OECD yn 2016, lle nodwyd bod ‘Angen llaw ganolog gryfach yn tywys nawr, er mwyn chwarae rôl fwy rhagnodol’ yng ngofal iechyd Cymru.

Sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u hariannu?

Nid oes gan Gymru bellach system seiliedig ar farchnad fel Lloegr; yn hytrach mae’n canolbwyntio’n fwy ar ddull seiliedig ar gynllunio, gyda  Chynlluniau Tymor Canolig Integredig.3-blynedd yn sylfaen iddo.  Mae nodweddion tebyg rhwng comisiynu a chynllunio; mae’r ddau beth yn ymwneud â nodau strategol, gwneud dewisiadau, a ffurfio gwasanaethau cyfredol ac i’r dyfodol.  Fodd bynnag, nid yw Cymru’n defnyddio arian i sbarduno newid yn y system yn yr un ffordd â Lloegr.  Mae gan Loegr system  talu yn ôl canlyniadau sy’n seiliedig ar dariff, gyda chomisiynwyr yn rheoli’r gyllideb, tra bod Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru yn derbyn  dyraniadau cyllid craidd penodol yn bennaf ar sail maint a chyfansoddiad eu poblogaeth leol.

Sut mae GIG Cymru yn cael ei reoleiddio a’i fonitro?                               

Mae rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal iechyd y GIG a rhai annibynnol yn cael ei arwain gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW). Gall HIW nodi meysydd ar gyfer gwelliant lle mae darparwyr yn methu cyrraedd y safonau.  Mae HIW hefyd yn un elfen – ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru – o drefniadau esgaladu ac ymyrraeth teiran GIG Cymru, sy’n craffu ar sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG yng nghyswllt ansawdd, perfformiad gwasanaeth a rheolaeth ariannol.

Mae hyn yn wahanol i Loegr, lle gellid dadlau bod y drefn yn ymyrryd yn fwy; mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) yn arolygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ganddo bwerau cryf i ymyrryd, gan gynnwys y gallu i gyflwyno hysbysiadau rhybudd, gorfodi dirwyon neu osod mesurau arbennig ar ddarparwyr. Ochr yn ochr â’r CQC, NHS Improvement sy’n gyfrifol am oruchwylio Ymddiriedolaethau’r NHS, ymddiriedolaethau sylfaenol a darparwyr annibynnol gofal a ariannir gan yr NHS, ond mae hefyd yn gallu ymyrryd.

Ar yr un pryd, mae Cymru hyd yn awr wedi cadw’r Cynghorau Iechyd Cymunedol (CICau) – y cyrff statudol annibynnol sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd, ac sydd hefyd yn arolygu gwasanaethau lleol y GIG.  Mae 7 Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC), sy’n rhannu ffiniau gyda’r byrddau iechyd lleol.  Fodd bynnag, yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion o dan y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) i gyfnewid y CICau am Gorff Llais Dinasyddion newydd i Gymru gyfan, gyda’r bwriad o gynrychioli buddiannau pobl ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn Lloegr, mae cleifion yn lleol ac yn genedlaethol yn cael eu cynrychioli gan Healthwatch, tra bod Cyngor Iechyd yr Alban  a’r Cyngor Cleifion a Chleientiaid yng Ngogledd Iwerddon yn darparu lleisiau annibynnol i gleifion, cleientiaid, gofalwyr a chymunedau ynghylch materion iechyd a gofal cymdeithasol.  Fodd bynnag, nid oes gan yr un o’r cyrff hyn yr ystod o bwerau statudol sydd ar gael i CICau.

Beth yw’r heriau?                               

Bydd Gweithrediaeth newydd y GIG yn cael ei sefydlu ar adeg heriol ond diddorol.  Mae Cymru’n wynebu llawer o’r un materion â gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt: gweithlu a recriwtio, pwysau ariannol, amserau aros hir, mwy o alw am wasanaethau, yr heriau iechyd cynyddol  sy’n gysylltiedig â chlefyd cronig a ffyrdd afiach o fyw,  a chyflawni’r cyfuniad a’r ffurf gywir o wasanaethau.

Mae hefyd faterion llywodraethu ac ansawdd unigryw. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers 2015, ac mae sawl Bwrdd Iechyd Lleol arall wedi bod yn destun ymyrraeth wedi’i thargedu neu fonitro lefel uwch.  Cwestiynwyd effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu ansawdd teiran ac ehangach yn sgîl y pryderon difrifol am wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.

Yn yr un modd, mae’r cynigion yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu)(Cymru) i ddisodli CICau wedi bod yn bwnc llosg, gyda phryderon ynghylch colli hawliau i archwilio ysbytai a meddygfeydd, absenoldeb strwythurau clir i sicrhau cynrychiolaeh leol a’r posibilrwydd o golli llais ynghylch cynigion dadleuol i newid y gwasanaeth.  Mae angen mynd i’r afael â llawer o bethau.