Sut gall atebion cymunedol gwella cludiant gwledig yng Nghymru

Mewn blog gwadd yn rhan o’n cyfres ar dlodi gwledig, dyma Chyfarwyddwraig Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru Christine Boston yn esbonio sut gall atebion cymunedol fod yn allweddol i wella trafnidiaeth yng Nghymru wledig.

Mae’r haul yn tywynnu erbyn hyn, ac mae’r tywydd gwael eithafol a gawsom ar ddechrau 2018 yn teimlo fel amser maith yn ôl. Fodd bynnag, nid oes llawer o amser wedi mynd heibio ers i bobl ar draws Cymru orfod ymdopi â bywyd heb gludiant.  Nid oedd yn bosibl teithio yn ein prif ddinasoedd wrth i eira trwm atal pobl rhag gyrru, ac arwain at ganslo gwasanaethau bysiau a threnau.  Am gyfnod byr, teimlai pobl sydd â chysylltiadau teithio da fel arfer, mor ar wahân â’r rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig o ddydd i ddydd.

Mae adroddiad ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ynghylch sut i wella cludiant gwledig yn awgrymu bod hyd at chwarter y boblogaeth wledig yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a bod llawer ohonynt yn profi cyfleoedd cyfyngedig ac ynysu cymdeithasol.  I’r bobl hynny, mae cludiant yn gwbl allweddol i allu bod yn annibynnol, mwynhau bywyd o ansawdd da ac ar gyfer eu lles yn gyffredinol.

Oherwydd ffactorau’n ymwneud â daearyddiaeth a phoblogaeth, mae cludiant gwledig yn dibynnu ar ryw fath o gymhorthdal, boed hynny’n arian cyhoeddus, grantiau neu amser gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, wrth i’r sector cyhoeddus wynebu rhagor o doriadau, rydym yn aml yn clywed am wasanaethau’n cael eu cyfyngu neu eu dileu. Mae diffyg cludiant gwledig a chost uchel teithio preifat yn creu argyfwng mewn cymunedau gwledig, ac mae hyn arwain at brinder mynediad yn yr ardaloedd hynny.

Mae cwmni lleol sy’n gallu cynnig cludiant ar gyfer teithiau hanfodol ar gael i rai pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae prinder cludiant.  Er enghraifft, ym Mhowys, mae 17 o gynlluniau cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaethau fel deialu i deithio, cynlluniau ceir cymunedol, llwybrau bysiau hyblyg a grŵp llogi bws mini ar gyfer grwpiau lleol.  Yn 2016-17, gyrrodd y cynlluniau hynny bellter o 795,000 milltir ar gyfer 8,500 o aelodau gan ddarparu 95,000 o deithiau i deithwyr unigol, gyda 90% o yrwyr yn gwirfoddoli o’u hamser fel bod y gwasanaethau hynny’n bosibl.  Mae gwasanaethau tebyg ar waith mewn cymunedau ar draws Cymru, gan gynnig cludiant lleol ar gyfer y rheini sydd ei angen fwyaf.

Ar hyn o bryd, mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn cyflwyno prosiect sy’n ceisio cynyddu a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol fel bod mwy o bobl – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig – yn gallu elwa ar gludiant hyblyg a fforddiadwy.  Mae prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru wedi cael arian am bum mlynedd i ddatblygu gwasanaethau cludiant ymhellach sy’n ateb y galw ar draws Cymru.

Drwy gyfrwng Rhaglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, dan nawdd Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, bydd y prosiect yn ceisio datblygu rhwydwaith Cludiant Cymunedol cynaliadwy drwy wella gwydnwch a chapasiti’r sector Cludiant Cymunedol yng Nghymru, a’u galluogi i gael effaith ar dlodi gwledig a’r ymdeimlad o fod ar wahân mewn ardaloedd gwledig

Mae’r prosiect eisoes wedi nodi nifer o fentrau i’w datblygu, ac mae’r tîm yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau fydd yn cynyddu mynediad at fysiau mini ar gyfer grwpiau, ceir cymunedol, sgwteri olwynion i’r gwaith, a moduron â mynediad i gadeiriau olwyn.

Mae llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar nodi partneriaid sydd am wneud i bethau ddigwydd. Felly, os ydych am ddod i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael a sut i gymryd rhan, cysylltwch â connectingcommunities@ctauk.org