Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau i Wella Trafnidiaeth mewn Ardaloedd Gwledig

Ystyrir bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i ddatblygu ardaloedd gwledig, ac mae’n chwarae rhan ganolog wrth helpu grwpiau allweddol i gael gafael ar wasanaethau, gwaith, hyfforddiant, a mwynhau gweithgareddau hamdden. Fodd bynnag, mae’n gymharol ddrud i’w gweithredu ac yn anodd ei chynllunio mewn ffordd sy’n diwallu anghenion amrywiol cymunedau gwledig.

Mae’r adolygiad yn nodi tri phrif ddull o ymdrin â phroblemau trafnidiaeth wledig: systemau trafnidiaeth gyhoeddus ag amserlenni penodol (bysiau yn bennaf), systemau trafnidiaeth hyblyg (fel gwasanaethau ymateb i’r galw), a chynlluniau sy’n darparu cerbydau i unigolion neu gartrefi.