Bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw yn trafod ymchwil newydd am dlodi gwledig yng Nghymru, ac yn myfyrio ar y goblygiadau o ran ymchwil, polisi ac ymarfer.
Mae’r digwyddiad yn parhau ac yn datblygu’r drafodaeth ynglŷn â mynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn cyfres o adroddiadau gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud â chludiant mewn ardaloedd gwledig, mynediad at wasanaethau, tai gwledig, tlodi tanwydd a’r economi wledig. Bydd cyflwyniadau gan ymarferwyr ynglŷn â’r materion hyn, a cheir trafodaeth banel wedi hynny fydd yn amlygu’r goblygiadau o ran ymchwil a pholisi. Bydd cyfle i bawb sy’n mynd i’r digwyddiad ofyn cwestiynau.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd, ond gofynnwn i chi gadarnhau eich lle drwy gofrestru. Nodwch wrth gofrestru os oes angen gwasanaeth cyfieithu ar y pryd arnoch i’r Gymraeg.
Bydd cinio bwffe ar gael (nodwch os oes gennych unrhyw ofynion dietegol). Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio rhad ac am ddim ar gael ar y safle.
Os hoffech fynd i’r digwyddiad, ond mae gennych anawsterau o ran cludiant, cysylltwch â sarah.quarmby@wcpp.org.uk.