Pandemig o’r enw unigrwydd

Pan ofynnwyd i mi fynychu’r digwyddiad ar ‘Fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghymru trwy’r pandemig a thu hwnt‘ fel cynrychiolydd ar gyfer fy sefydliad (Cyngor Sir Gaerfyrddin), ro’n i’n meddwl bod hynny gan fy mod i’n rheolwr cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn, a phan ry’n ni’n clywed y gair ‘unigrwydd’ ry’n ni’n meddwl yn awtomatig am y genhedlaeth hŷn – yn bennaf y rhai 70+ oed ac yn benodol unigolion sy’n byw mewn cartrefi gofal. Ro’n i’n gwbl anghywir!

Fe ddysgais i fod unigrwydd yn effeithio ar bob grŵp oedran yng Nghymru, yn enwedig pobl iau, a phlant mor ifanc â 7 oed, sy’n frawychus. Mae’n bosib fod cenedlaethau iau wedi ei chael hi’n arbennig o anodd ymdopi ag unigrwydd neu arwahanrwydd, ac yn y digwyddiad fe glywson ni y gall hyn gael goblygiadau o ran camddefnyddio sylweddau ymhlith oedolion ifanc, gorbryder cynyddol, ac anawsterau iechyd meddwl ymhlith pobl hyd yn oed yn iau. Ro’n i’n cymryd, oherwydd datblygiadau technolegol, a chan fod y genhedlaeth iau mor fedrus wrth ddefnyddio ystod eang o lwyfannau, y bydden nhw wedi ffynnu trwy’r cyfnod clo. Fodd bynnag, dychrynais o glywed yn y digwyddiad fod cyfeillgarwch wedi chwalu, fod bwlio ar-lein yn debygol o fod wedi cynyddu yn ystod y pandemig, ac y gallai rhai cymunedau sydd wedi’u hadeiladu ar-lein fod yn anfwriadol yn gwneud y genhedlaeth iau yn fwy ynysig ac unig. Er bod llawer o gymunedau ar-lein wedi bod yn gefnogol ac yn galonogol, mae risg y bydd y genhedlaeth iau yn dod yn or-ddibynnol ar dechnolegau, ar draul perthnasoedd personol.

Gall effeithiau hirdymor unigrwydd fod yn wirioneddol rwystrol. Sut ydyn ni’n mynd i ddod o hyd i’r bobl sydd angen help a chefnogaeth wrth i’r cyfyngiadau leddfu, a beth fydd effaith unigrwydd yn y genhedlaeth iau ar gymdeithas ac economi’r dyfodol? Pa mor amserol fydd unrhyw ymyrraeth, ac wrth symud ymlaen sut allwn ni atal unigrwydd rhag effeithio ar addysg, cyfleoedd gwaith yn y dyfodol, bywyd o ddydd i ddydd, perthnasoedd, a’r genhedlaeth nesaf? Ni fydd cyfran sylweddol o’r gefnogaeth a oedd yno cyn y pandemig ar gael mwyach, ac mae gwasanaethau a oedd eisoes ar y dibyn bellach yn cael eu chwalu a’u gorlethu’n llwyr.

Er fy mod i bob amser wedi bod yn ymwybodol o’r materion sy’n wynebu pobl iau, do’n i ddim deall maint y pwysau wrth symud ymlaen, ac ystyriais i ddim unigrwydd fel ffactor gan nad o’n i’n ei gysylltu â phobl iau; os rhywbeth, tlodi fyddai’r peth cyntaf i ddod i’r meddwl. Gorfododd y digwyddiad fi i gydnabod y realiti llwm y mae’r pandemig wedi’i gael ar y genhedlaeth iau. Ro’n i’n rhwystredig a dig gyda fy hun am beidio ag ystyried y gall unigrwydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Yn wir, dywedwyd yn y digwyddiad, “gallwch fod mewn ystafell sy’n llawn pobl, cael digon o ffrindiau a theulu cefnogol a dal i deimlo’n unig”. Fe ddaeth hyn ag unigrwydd, a sut mae’n effeithio ar bawb, i’m sylw’n glir.

Un peth cadarnhaol o’r digwyddiad oedd nifer y sefydliadau amrywiol a oedd i gyd eisiau cyfrannu, helpu a chefnogi a chanolbwyntio ar ailadeiladu gwasanaethau a chymdeithas mewn Cymru ôl-COVID. Roedd wir yn agoriad llygad. Mae’n synhwyrol nodi y bydd gwella o effaith COVID yn broses hir a chymhleth ar gyfer gwasanaethau, sefydliadau (cyhoeddus, gwirfoddol, 3ydd sector ac ati) ac unigolion, a bydd angen i bawb gyfrannu mewn un ffordd neu’r llall. Bydd cyfathrebu, cydweithredu a chydweithio yn allweddol i symud Cymru ymlaen a pheidio â gadael unrhyw un ar ôl.

Yn yr un modd, i bobl hŷn, neu’r grwpiau hynny a oedd yn hunan-warchod, fe glywson ni yn y digwyddiad y gallai integreiddio yn ôl i gymdeithas hefyd fod yn achosi mwy o orbryder, iselder ysbryd, a dibyniaeth ar feddyginiaethau ac alcohol. Bydd ailadeiladu hyder pobl yn ffocws allweddol i gymunedau. Bydd mynd yn ôl i’r gwaith, ysgolion, colegau, hyfforddiant, addysg a thasgau beunyddiol hyd yn oed, fel siopa, yn frwydr enfawr i lawer mewn cymdeithas.

Mae gwrando ar straeon a phrofiadau pobl eraill yn ystod y digwyddiad deuddydd hwn wedi cael effaith ddwys a gostyngedig arnaf, ac mae wedi agor fy llygaid i bandemig newydd sy’n byrlymu’n dawel o’n cwmpas ni, pandemig heb frechlyn na gwellhad ar hyn o bryd. Pandemig o’r enw unigrwydd!