Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal rhaglen ymgysylltu digidol i ddod â’r prif fudd-ddalwyr sy’n ymwneud â pholisi unigedd a’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r tu hwnt ynghyd. Gyda chymorth partneriaid strategol Kaleidoscope Health and Care, bydd yn cynnal cynhadledd ddigidol ar 14eg a 15fed Gorffennaf 2021, ac yn cyhoeddi blogiau a fideos gan fudd-ddalwyr allweddol i wella ac ehangu’r drafodaeth.
Bydd y gynhadledd ar ffurf dau sesiwn:
- 10:30-12:00 ar 14eg Gorffennaf
- 10:30-12:00 ar 15fed Gorffennaf
Bydd croeso cynnes i bawb sy’n ymwneud â’r maes hwn, boed ymarferwr neu luniwr polisïau. Rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan yn y ddau sesiwn.
Diben y gynhadledd ryngweithiol hon fydd:
- Tynnu sylw at waith sy’n mynd rhagddo i leddfu unigedd ac ynysu cymdeithasol yng Nghymru trwy gyfrwng cyflwyniadau ysgogol ymarferwyr ac ymchwilwyr a lledaenu dysg ymhlith y gynulleidfa.
- Deall sut mae cynorthwyo’r rhai sy’n gyfrifol am benderfyniadau lleol ynghylch lleddfu unigedd.
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae:
- Olivia Field – Pennaeth Polisi Iechyd a Gwydnwch yn y British Red Cross
- Naomi Lea – Sylfaenydd Prosiect Hope a Swyddog Cymorth Gwirfoddoli Ieuenctid yng WCVA
- Dr Jamie Smith – Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi yn Hafod
- Dr Kalpa Kharicha – Pennaeth Ymchwil, Polisi ac Ymarfer yn Campaign to End Loneliness
- Y Cynghorydd Alyson Pugh – Cynghorydd yng Nghyngor Abertawe
Cyhoeddir siaradwyr pellach ac agenda ar gyfer y digwyddiad ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.